Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofynnodd

ofynnodd

Yn y lifft i'r ystafell, rhewais pan ofynnodd yn ei Saesneg prin, 'Do you have Scotch?' Doedd bosib bod y swyddog hwn mewn gwlad Islamaidd yn derbyn llwgrwobrwyon alcoholaidd!

Fe ofynnodd y cyfaill hwn i'r llythyrwr ddewis pump o lyfrau Cymraeg iddo'u dwyn gydag ef, i gadw'i Gymraeg a'i Gymreigrwydd yn fyw.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Ni ofynnodd iddi erioed gynnau tân na gwneud neges, roedd yn ormod o ūr bonheddig i hynny.

Fe steddes i yn y gader am funud, yn union ar ol rhoi baich o goed yng nghefen y grat i sychu, ond fe ofynnodd ifi godi ar unwaith a dod i iste ati hi ar y soffa.

Fe ofynnodd - - os oes elw yn cael ei dalu iddynt hefyd - doedd - - ddim yn gweld fod y ddadl honno yn berthnasol.

Mae'n cymryd y pnawn yma'n rhyd, fydd e ddim yn cael llawer o amser rhydd yn ystod tymor yr ymelwyr, ac felly fe ofynnodd i mi fynd i nofio gydag e.

Mae'r 'orders' yn dod o'r top, Doctor, oherwydd mae'r gwaith sy'n cael 'i neud yma'n bwysig iawn - yn holl-bwysig os daw rhyfel." "'Dwy'i ddim yn siŵr iawn pam y ces i alwad i ddod 'ma..." "Proffesor Dalton - ein prif wyddonydd ni 'ma - ofynnodd amanoch chi'n bersonol.

Pan ofynnodd Francis i John pam y bu iddo dorri'r gwn dywedodd fod arno ofn i'w dad ei saethu, ond iddo gael ar ddeall wedyn, gan Mary Jane Williams, mai bwriad ei dad oedd ei daro â baril y gwn yn hytrach na'i saethu.

Cafwyd adroddiadau dyddiol o'r Gelli yn ystod yr wyl yn May in Hay ac ar gyfer y ddadl flynyddol Debate at Hay a ofynnodd sut y mae Cymrun bodlonir disgrifiad Cool Cymru. Bu cyflwynwyr eraill BBC Radio Wales ar daith hefyd gydag Owen Money yn ymddangos mewn amrywiaeth o leoliadau ar gyfer Sioe Deithiol Haf BBC Radio Wales a Kevin Hughes, sydd fel arfer yn cyflwynor sioe siartiau wythnosol gyda gwestai enwog a phosau, yn mynd âi babell i wyl Glastonbury yn Carry on Camping.

Gan mai gweithio'n y nos yr oedd y dyn ifanc; yr oedd ganddo drwy'r dydd i geisio dod o hyd i ateb i rai o'r cwestiynau a ofynnodd i'r cŵn ffyddlon.

Ac yna â ymlaen i fanylu ar bwnc yr iaith, gan ateb chwe chwestiwn a ofynnodd ei ohebydd, gwr o Wrecsam,

Mynegodd aelodau Cangen Y Groeslon anfodlonrwydd gydag agwedd Banc y TSB tuag at yr iaith Gymraeg - pan ofynnodd y Trysorydd am ffurflen Gymraeg (neu ddwyieithog), dywedwyd wrthi nad oedd ffurflen ar gael ac nad oeddynt yn barod i baratoi un.

Yr hyn syn rhywfaint o ryfeddod, fodd bynnag, yw nad ofynnodd neb y cwestiwn a ddylid fod wedi agor drysaur stadiwm o gwbl ar y Sul.

Pan ofynnodd Powell beth achosodd i'r awyren orfod glanio, daeth yr ateb sotto voce gan Gareth, "Sgido yn yr awyr." a'r prifathro'n methu a deall pam fod gweddill y dosbarth yn eu dyblau.

Yn lle gofyn i ddyn mor sâl drwsio'i gar, fe ofynnodd iddo sgrifennu stori ar gyfer cylchgrawn Cymry Llundain.

Fe ofynnodd i mi yn gyntaf a oeddwn i'n gwybod am Topsham Road yn Exeter.

Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.

Fe ofynnodd - - sut oedd Ffioedd y BBC yn cymharu.

Trwy wyth mlynedd ymdrech Mrs Beasley, un Cymro arall yn y dosbarth gwledig a ofynnodd am bapur y dreth yn Gymraeg.

Digwyddodd daro ar Ali y bore hwnnw ym marchnad Casnewydd pan ofynnodd Ali iddo hebrwng y cig i Heol Grafton a'i adael yn y gegin.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

Cafwyd adroddiadau dyddiol o'r Gelli yn ystod yr wyl yn May in Hay ac ar gyfer y ddadl flynyddol Debate at Hay a ofynnodd sut y mae Cymru'n bodloni'r disgrifiad ‘Cool Cymru'. Bu cyflwynwyr eraill BBC Radio Wales ar daith hefyd gydag Owen Money yn ymddangos mewn amrywiaeth o leoliadau ar gyfer Sioe Deithiol Haf BBC Radio Wales a Kevin Hughes, sydd fel arfer yn cyflwyno'r sioe siartiau wythnosol gyda gwestai enwog a phosau, yn mynd â'i babell i wyl Glastonbury yn Carry on Camping.

Ofynnodd neb y cwestiwn amlwg i'r rhai a ddaeth yn gyntaf ym Marathon Llundain ddydd Sul.