Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oglau

oglau

Ac yn bennaf yr adeg hon o'r flwyddyn, byd y synhwyrau, byd yr ogleuon hydrefol y ceisid eu hatgynhyrchu mewn sentiach drud i ddynion: oglau lleithder siarp, mwsog a ffwng a rhedyn.

Yna, mewn eiliadau, fe fydden ni'n gallu gweld golau egwan ei lantern a chlywed sŵn siffrwd ei gwisg laes ar y palmant ac oglau fel arogldarth Capel Pab yn gymysg â pheli gwyfyn fy nain.

Ar ôl blynyddoedd o ymdrin â bwganod, mae'r arswyd hyfryd o allu cysylltu ag ysbrydion yn f'atgoffa bob amser o sŵn frou-frou gwisg sidan Miss Jones Bach a'r oglau arogldarth yn gymysg â pheli gwyfyn.

Eu pobl nhw, yn Saeson, Ffrancwyr ac Americaniaid, yw'r cymeriadau lliwgar, herfeiddiol a fu'n brasgamu ar draws cyfandiroedd gan adael ar eu hôl ychydig o oglau alcohol, calonnau chwilfriw a biliau heb eu talu.

Llanwyd ei ffroenau ag oglau gwlydd a phridd, a gwenodd wrth feddwl iddi ennill y frwydr i beidio â'u golchi.

Diferai dannedd Rhys wrth iddo glywed yr oglau'n treiddio drwy'r papur lapio.