Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ogoniant

ogoniant

Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i fwa mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD.

Mae'n aros yn ei fawredd, yn ei ogoniant, yn ei amynedd, yn ei gyfiawnder ac yn ei gariad.

Eich holl ogoniant, fel blodeuyn y glaswelltyn, a wywodd!

Siawns na chredodd honno chwaith wrth wreichionni ar dafod ysig y fflamau y doi iddi eto awr o ogoniant aur.

Y mae'n ddiamau mai yn nhemlau Angkor y claddwyd eu gweddillion ac y cedwid y cof amdanynt hwy ac am ogoniant eu cyfnod.

(g) Mae'n Duw ni yn ddigon mawr i ddelio â'n camgymeriadau ni mewn modd fydd yn ogoniant i'w enw Ef, ac yn gysur i ni.

Clywais ef yn dweud iddo eistedd oriau wrtho'i hunan ar y bryn a elwir 'The Hill of Tara' - hen gartref Uchel Frenhinoedd Tara - yn myfyrio am hen orffennol y genedl Wyddelig, a bron, meddai ef, na allai weld yr hen ogoniant yn rhithio o flaen ei Iygaid wrth eistedd yno.

Pwyntiodd yn araf at frigyn oedd o fewn dwy lathen i ni, a dyna lle roedd ceiliog Coch y Berllan yn sefyll yn ei holl ogoniant.

Gorau oll, yn fy marn i, oherwydd ni fwriadwyd inni fedru trin a thrafod y Bydysawd drwyddo draw, ond yn hytrach ryfeddu a ryfeddu at ei holl ogoniant a'i ryfedd ffyrdd.

Os ymuniaethodd Moses â'r bobl fel eu proffwyd a'u harweinydd, cafodd Iesu, a gyfrifwyd 'yn deilwng o ogoniant mwy na Moses' ac a wnaed 'ym mhob peth ...

Ond beth am ogoniant y dull o ddweud yn y fan yma?

Dyna ogoniant y cyfrwng newydd hwn, hwylustod y cysylltiad, cymaint gwell na'r post tost.

Gorffwysa dy ogoniant ar dy holl weithredoedd.

Y mae angen gweledigaeth newydd o ogoniant yr Arglwydd Iesu Grist.

Ar wahân i'w grefft fel stori%wr, ei brif ogoniant yw cyfoeth naturiol ei iaith, ac yma gwelwn ddawn y bardd ar ei gorau.

Gwyddem am ei thaith i'r Andes, ac am y storm ar y mor, a theimlem fod rhyw ogoniant tarawiadol o'i chwmpas!

Aeth â ni am ychydig o filltiroedd trwy goedwig dew nes inni ddod at wastadedd eang ynghanol y jyngl; yno safai Anghor Wat yn ei holl ogoniant wedi'i amgylchynu â llyn; yn y dþr gwelem ychen gwyllt yn nofio'n urddasol fel y gwelem ychen lawer gwaith o'r blaen yng ngwledydd De Ddwyrain Asia yn nofio yn unrhyw ddwr y caent afael arno.

Felly, er fy mod yn poeni am 'safon' iaith fel ein sylwebyddion, y tu fas i'r Cynulliad Cenedlaethol / Cyngor Sir / Cymdeithas Adeiladau / Cwmni Ffôns Symudol y mae lle Cymdeithas yr Iaith i brotestio o hyd; ac nid trwy gynnal darlleniadau cyhoeddus o Ramadeg y Gymraeg yn y gobaith y bydd rhywrai'n cael eu hadfer i ddefnyddio'r treigliad llaes yn ei holl ogoniant.

Ond waeth i ni heb ~ meddwl y gallwn iawn ddchongli'r pregethau hyrmy heddiw, oherwydd nid ydynt ar gad i ni: rywfodd, ys dywed Cynhafal Jones, pan gymerwyd y pregethwyr i ogoniant, fe gollwyd eu pregethau.~ Yr ychydig bregethau y gwelwyd yn dda eu cyhoeddi mewn print sy'n weddill.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.

Fel y gwelir oddi wrth y Salmau, y mae byd natur yn tystio i ogoniant Duw ac felly yr oedd yn gwbl briodol gweu cyfeiriadau at fyd natur â chyfeiriadau at drugaredd a ffyddlondeb Duw wrth addoli.

Syniad Edward Williams (Iolo Morganwg), saer maen, bardd ac ysgolhaig o Drefflemin, Bro Morgannwg, oedd sefydlu'r mudiad, a hynny er mwyn adfer y traddodiad barddol i'w hen ogoniant.