Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ohona

ohona

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

Yn sicr doedd o ddim yn beth oedd pawb yn yr ysgol yn 'neud, felly doedd o ddim yn ffasiynol a doedd ddim yn beth oedd yn cael ei ddisgwyl ohona'i gan unrhyw aelod arall o 'nheulu.

Mae rhai ohona ni yn dal yn ddigon hen i gofio'r dyddiau du hynny pan oedd y goleuadau yn diffodd fesul un ag un drwy Brydain ben-baladr - a'n pobl ifanc, goreuon eu cenhedlaeth yn aml, yn gwneud dim byd mwy difrifol yn y tywyllwch dudew hwnnw na blasu siocled.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Pan ddaeth tymor y 'Dolig i'w derfyn y llynedd fe gawsant wared ohona' i o'r ysgol a 'dydw i'n ama' dim nad oedd yr ocheneidia' rhyddhad i'w clywed bryd hynny yn atseinio'n uchel hyd goridora' byd addysg.

Bydd yn rhaid i'r gweddill ohona chi aros tan y mis nesa - ond un peth y gaallwn ni ei ddweud yw ei bod yn sicr yn werth yr aros.

Fe arwyddodd nifer ohona ni sydd yn aelodau o staff y Llyfrgell y llythyr.