Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ohonon

ohonon

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi gweld ffilmiau arswyd lle mae dyn gorffwyll, yng ngolau'r lloer, yn gafael yn ei wddf, yn gwneud synau sy'n awgrymu ei fod ar fin tagu ac yn troi yn ...

Wnaeth yr un ohonon nhw erioed awgrymu y dylwn ddefnyddio cadair olwyn.

All yr un ohonon ni gysgu'n dawel yn ein gwlâu, wedi mynd.

Dau ohonon ni oedd ar y daith, golygydd cylchgrawn Cymraeg (fi) ac un o gynghorwyr Plaid Cymru (Gareth Butler o Aberystwyth).

Tybed nad ydyn ni, rai ohonon ni, yn edrych ar air Duw fel print mân nad yw'n berthnasol i'n taith ni trwy fywyd?

Yn wir, yr oedd gyda nifer ohonon ni luniau yn ein meddyliau o dreulio penwythnos mewn rhyw hen hongliad o adeilad oer a gwag, di-gysur a diarffordd.

Daeth deunaw ohonon ni ynghyd er mwyn trafod y pam, sut a phwy o'r ymgyrch.

Roedd botwm rheoli'r ffwrn ar y wal, ac ar y nos Sadwrn arbennig hon, mi ês ati i baratoi stêc a sglodion i'r ddau ohonon ni.

Mae yna dair ohonon ni.

Busnes digon od yw angladd, ar y gore, a doedd gan neb ohonon ni fawr ddim i weud pan es i a Jac draw i fesur Madog ac wedyn i fynd a'r coffin draw.

I'r rhai ohonon ni sy'n byw yn y byd go iawn, mae'r anghyfiawnder a wneir â'r iaith Gymraeg i'w weld yn amlwg ac yn ddyddiol.

Cyrraedd y llinell ar ben arall y cae, a'r ddau ohonon ni'n cerdded 'nôl i'n hanner ni o'r cae, wedi dadwneud effaith y melwyn dwr, a finne'n fy holi fy hun pam wnes i drafferthu i gadw i fyny gyda Roy ar ei gwrs ar hyd y cae.

Am dri mis, fe aeth popeth yn 'i flan fel arfer - Luned yn dechre'i gwaith am naw ac yn gorffen am whech, ond roedd pawb ohonon ni wedi sylwi fod rhyw newid ynddi hi.

Trwy'n llwyddiant yn Mallorca a Llangollen mae wedi dod â chlod byd-eang inni ac i Eirlys Britton fel hyfforddwraig gyda'r weledigaeth a'r gallu i dynnu allan ohonon ni rhyw ysbryd cyntefig o'r gorffennol fel dawnswyr, a chyflwyno traddodiadau dawns Cymru mewn ffordd chwaethus a medrus i safon aruchel.

`Y tro hwn mae angen achub pump ohonon ni.' Pan gyrhaeddodd y cwch dringodd Gunnar, ei deulu a'r ddau ddyn o'r hofrennydd i mewn iddi'n ddiolchgar.