Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

olau

olau

Wrth y tân y noson honno, ac wrth olau'r lamp bu'r tri yn siarad yn hir.

Roedd y cwbl yn olau ac yna'n dywyll am yn ail.

Heb rybydd o gwbl, daeth fflach o olau disglair nes bron â dallu'r tri ohonyn nhw, a theimlodd Geraint y bar haearn yn dod yn rhydd yn ei ddwylo.

Gwelodd olau dydd gyntaf, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, pan oedd Harri VII yn teyrnasu.

Dan olau canhwyllau cynnes cyflwynwyd carolau mewn Almaeneg a Ffrangeg.

Yr oedd yn noson olau leuad glir o hyd ac felly, er iddo danio'r injan, nid aildaniodd oleuadau'r Land Rover, dim ond troi ei drwyn i lawr y rhiw.

Mae'r 'conau'yn sensitif i liw ac i olau llachar, a'r 'rhodenni' sy'n gweld pethau llai disglair ac sy'n rhoi golwg inni gyda'r nos.

Mae ffordd dda o ddarganfod a yw defnyddiau yn dryleu ai peidio.Disgleiriwch olau o fflachell mewn ystafell dywyll.

Ni elli wrthsefyll y llais sy'n dy alw ymlaen ac mae'n rhaid i ti ddilyn y Belen Olau.

Rhyw ochri efo Byron Hayward ydw i yn hyn i gyd a dweud y dylid gadael i'r bobl yma chwarae i'r gwledydd lle cawson nhw eu geni ac nid lle gwelodd eu taid neu eu nain olau dydd.

Golyga hyn y bydd un o lyfrau plant pwysicaf yr ugeinfed ganrif (a welodd olau dydd gyntaf yn 1931) yn ymddangos ar ei newydd wedd erbyn y flwyddyn 2000.

'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.

Roedd, fel y stribedi o olau hynny, yn edrych yn ddibwys i'r byd mawr swyddogol y tu allan gyda'r sylw i gyd wedi'i hoelio ar oleuadau mwy fel y golau a fyddai'n hofran, yn y man dros Abertawe.

Cynheuodd olau'r lamp a dehcreuodd grio'n ddistaw.

Ar y gorwel, y tu draw i amlinell dywyll y bryniau, gwelai olau cyntaf y wawr yn torri.

Goleua cledr ei law ac yn sydyn mae pelydr o olau'n dy daro ar ganol dy dalcdn.

Mynnu gweld yr ochr olau bob amser yr oedd Dave.

Meddai: "Y mae hunan lywodraeth seneddol i mi yn fater o gydwybod Gristnogol" Gwelai Syr Ifan ab Owen Edwards ddisglair olau 'mlaen.

Pan gaf amser af ati i geisio mwy o olau ar y mater.

Ai'r trên heibio i dai â rhyw olau bychan crwn, egwan yn y ffenestri.

Wedi i'r fflach o olau gilio, gwelodd gyda syndod ei fod yn sefyll yno gan ddal clamp o gleddyf addurniedig, a gemau lliwgar ar ei charn, a'i llafn mor ddisglair nes ei bod yn goleuo'r gell gyfan.

Mae rhywfaint o olau trydan hefyd ac ysgol a ffyrdd.

Yn sydyn sylweddolodd nad oedd y drws yn cau yn hollol dynn a bod rhimyn melyn o olau yn dod i mewn drwy'r agen fechan oedd rhwng y ddau drws.

Dim byd ond wal gerrig!' Doedd hynny ddim yn hollol wir, achos roedd yna ffenestr fach fel agen saethu, oedd yn gadael rhyw lafn main o olau i mewn i'r 'stafell dywyll.

Ni cheir cymaint o olau wrth blannu'r planhigion gyferbyn â'i gilydd.

Bob hyn a hyn, dâi fflach o olau tanbaid o'r du%wch.

Yr oedd yr hen gell yn olau, yn eang ac yn serchus o'i chymharu â'r gell gosb.

Ond roedd y gobaith yn dal, roedd rhyw fymryn o obaith am adferiad a pharhad y Ffydd a'r achos, hyd yn oed os mai cul ydoedd fel y stribedi o olau a ddihangai rhag caethiwed y llenni duon, trwchus, dros y ffenestri.

Fe ufuddhaodd Wil Sam ac fe gyhoeddwyd y stori yn Y Ddinas - un o amryw a welodd olau dydd hwnt ac yma yn yr un cyfnod.

Y gwir yw bod Zulema'n ei gweld ei hun fel ail Evita; dyna pam y lliwiodd ei gwallt du yn olau.

Roedd hi'n noson olau leuad dawel, dyner a dywedodd fy mam os lapiwn fy hun yn ddigon cynnes y gwnâi'r cerdded les i mi.

Anelodd yr Arolygydd olau'r fflachlamp i fyny at y ffenestr a gwelsant i gyd ben ac ysgwyddau'r Indiad yn dod i'r golwg.

Aeth y 'golau tan glo' yr oedd mam Gwenno yn gwau hosan wrtho pan oedd Huwcyn yn edrych 'trwy dwll bach y clo' yn olau llachar bylb trydan yn crogi o ganol y nenfwd.

Y mae Mr Thomas yn eithriadol olau yn ei faes am o leiaf dri rheswm.

Rhaid i'm henaid noeth, newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau; Rho dy wisg ddisgleirwen, olau, Cuddia'm noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr.

Llongyfarchiadau Aled Wyn - mae'n rhaid fod gwyddoniadur da yn Fron Olau!

Mi fydd o'n falch o'ch gweld." A dyna lle'r oedd Dad mewn gwely, gwyn, gwyn, mewn ward olau fawr, a rhesi o welyau bob ochr, a rhywun ymhob un, rhai yn cysgu, eraill yn darllen, eraill yn gwenu ar y plant.

Weithiau, er mwyn manteisio ar y gwres, fe ddawnsient uwch ben cannwyll olau a rhoi gwellt sych yn eu clocsiau pren i gadw'r tamprwydd allan.

Gwelent olau cerbyd ar ôl cerbyd yn mynd ar hyd y ffordd ond nid oedd olwg bod yr un ohonynt am aros wrth Lety Plu.

Fe fyddem ni'n gweld rhyw olau cannwyll egwan yn dod o gyfeiriad siop Pollecoff.

Cwympodd fwy nag unwaith ond gyrrodd ei ofn ef ymlaen hyd nes iddo weld pelydryn o olau yn y pellter.

Yn y gweithdy y llunnid yr olwynion; 'roedd yn rhaid cael cyflenwad da o olau, ac os byddai'r diwrnod yn dywyll, 'roedd y rhwystrau'n fwy.

Pan ddaethon nhw allan i olau dydd unwaith et roedd y ddau wedi chwerthin cymaint nes roedd eu hochrau'n brifo.

Roedd y ddau arall hefyd wedi gweld fflach ei olau am ennyd fel yr ymlwybrai tuag atynt.

Cawn yr argraff o gipolwg sydyn - amrantiad o olau, o symud, a hyd yn oed o synau, fel argraff gyntaf delwedd cyn iddi lawn ddod i ffocws.

Rhowch "olau nos" o dano yn ystod y gaeaf i'w gadw rhag rhewi.

'Ei olau o, debyg iawn,' oedd yr ateb.

Ac eto, y tu allan i'r stribedi culion o olau trydan a ddihangai rhwng y llenni duon dros y ffenestri, roedd y byd mawr yn dywyll a dieithr, yn llawn ofnau am yr hyn a ddeuai yfory drwy law'r postman am hynt a helynt plant y plant a aeth i ffwrdd i Affrica, i'r Dwyrain Pell ac i bob man lle ceisiai Prydain Fawr ddal rhyw afael ar ei thiroedd ar hyd a lled wyneb y ddaear.

Ceiriog oedd yn sôn am John Evans o Hafod Olau ar ochr Cefn Du yn y Waunfawr, y fo oedd y bachgen a grwydrai lannau'r Missouri a'r Mississippi.

Cyn tremu'r dyddiad - yn y gaeaf byddai eisteddfod y Babell - roedd eisiau gweld shwd noson fyddai hi, achos roedd rhaid cael noson olau leuad, i oleuo'r wlad i'r bobl fyddai'n gorfod croesi'r mynydd i ddod yno.

Nid oedd lamp o fath yn y byd yn olau yn y strydoedd.

Nid oedd yr un pelydryn o olau yn dod o ffenestri Bryn Môr.

Mae'n rhaid inni ddisgwyl am olau fydd yn aros yn y fan honno.

Gwylient y llafn o olau yn goleuo'r twll, yna'r dyn yn camu'n ofalus i mewn iddo.