Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oleuadau

oleuadau

Yr oedd yn noson olau leuad glir o hyd ac felly, er iddo danio'r injan, nid aildaniodd oleuadau'r Land Rover, dim ond troi ei drwyn i lawr y rhiw.

Ni welwyd erioed amgueddfa mor lliwgar, y waliau yn ddu a llif-oleuadau bach yn goleuo'r cesys, rhai yn ymwneud â blynyddoedd y rhyfel fesul blwyddyn ac eraill yn trafod hysbyseb unigol, OXO, Ovaltine, Rinso ac yn y blaen.

Roedd, fel y stribedi o olau hynny, yn edrych yn ddibwys i'r byd mawr swyddogol y tu allan gyda'r sylw i gyd wedi'i hoelio ar oleuadau mwy fel y golau a fyddai'n hofran, yn y man dros Abertawe.

Croesawyd y ddau gan oleuadau llachar y siandeliriau yn neuadd yr Hengwrt.

Parhâi pobol i fyw wrth y stablau, ac ymhen blynyddoedd lawer wedyn dyma un yn digwydd sôn wrth Bill Parry am ddigwyddiad rhyfedd yno - eu bod wedi'u deffro'n ddiweddar gan oleuadau dros y lle, a hithau n ganol nos.

Nid yw'r metel cromiwm yn rhydu, ac y mae haen o gromiwm yn amddiffyn bwmperi ceir a'u prif oleuadau, yn ogystal a'n celfi yn yr ystafell ymolchi.

Cyflwr y ffordd/pafin Cyflwr y tai Faint o oleuadau stryd Taclusrwydd cyffredinol Faint o sbwriel

Bydd yn noson hanesyddol heno gyda Morgannwg yn wynebu Essex yn y cynghrair un-dydd dan y llif-oleuadau.

Ymhell islaw, i'r chwith, gwelai Glyn oleuadau tref fawr ond nid oedd ganddo syniad ymhle'r oedd.

Wrth ddod i lawr sylwodd ar res o oleuadau gwyrdd a choch a sylwodd fod Abdwl yn llywio i lanio rhwng y ddwy res o oleuadau.

Mewn man tywyll allan yn y wlad mae'n bosibl gweld llawer mwy o ser gan nad oes yno oleuadau artiffisial i oleuo'r awyr.

Bydd cynrychiolwyr Clwb Pêl-droed Cwmbran yn cyfarfod swyddogion y Cwpan Cenedlaethol prynhawn yma i esbonio cyflwr y llif-oleuadau.

Mae'n rhaid bod mewn man tywyll iawn ymhell o unrhyw oleuadau, ac mae'n rhaid gadael i'r llygaid addasu i'r tywyllwch.

Hiwmor realistig a geir fan hyn: Tref yn ei hanniddigrwydd yn cynnal sioe oleuadau un-dyn yn y Rex i gyfeiliant miwsig band bywiog; June yn dychwelyd o Birmingham heb lwyddo i gael y joban er-ail-wampio-ystadegau-di-waith-y- llywodraeth oherwydd methu ag enwi deg lefel 'O' pan holwyd hi am ei chymwysterau honedig!