Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oleuo

oleuo

Weithiau mae'n edrych fel rhidyll symudol anferth o oleuni, fel yn 'Y Gogarth o Fangor Uchaf', lle mae'r haul yn llithro'n esmwyth trwy orchudd tenau o gymylau i oleuo'r môr.

Casgliad y llyfr yw mai mudiad oedolion ifainc dosbarth canol addysgiedig oedd y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992, proffil sy'n gyffredin i lawer o fudiadau ymgyrchu eraill; yn wir, un o gryfderau'r astudiaeth hon yw'r modd y defnyddir astudiaethau ar fudiadau megis CND a Chyfeillion y Ddaear i oleuo datblygiad y Gymdeithas a'i rhoi hi yn ei chyd-destun fel mudiad pwyso.

Asgwrn cefn hanes cymdeithasol da yw ystadegau, ac fe'u defnyddir yma i bwrpas da i oleuo llawer o agweddau ar hanes y Gymdeithas.

Pâr i wirioneddau dy Air sanctaidd oleuo'n deall ac i wyrthiau dy ras ddyfnhau ein hargyhoeddiad nad oes enw arall wedi ei osod tan y nef trwy yr hwn y mae'n rhaid inni fod yn gadwedig ond enw Iesu.

Yr oedd tasg anferth o fawr o flaen y pwyllgor; trefnu ymgyrch trwy bob rhan o Gymru i oleuo ac addysgu a chreu argyhoeddiad ac at hyn trefnu'r gwaith manwl o fynd a ffurflen y Ddeiseb o dŷ i dŷ, nid yn y pentrefi Cymraeg yn unig ond hefyd yn yr ardaloedd poblog a Seisnig yn Sir Fynwy (Gwent erbyn hyn), Morgannwg a mannau eraill.

Ac mi rydan ni ynghanol y cyfnod hwnnw jyst cyn i'r dydd oleuo lle mae pob dim afreal yn edrych yn gwbl real a rhesymol.

Ar yr un pryd, ymbiliwn arnat oleuo meddyliau a chydwybodau arweinwyr y cenhedloedd i anelu at amgenach cyfiawnder wrth drafod cynnyrch y ddaear er mwyn lleihau newyn ac angen.

Daeth y trydan hwylus i oleuo'r fro, a bellach, ymysg casgliad o 'hen bethau', y gwelir llusern y gannwyll wêr.

Nid cydymdeimlad â phopeth oedd yn digwydd yno, na chydymdeimlad dall, ond ymgais i ddeall beth oedd creu gwladwriaeth newydd ar ôl dwy ganrif a mwy o goloneiddio a hanner canrif o ormes gwleidyddol trwm, gyda dim ond un cyfnod byr o annibyniaeth i oleuo rhwng dau ryfel byd.

(iii)Caniatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais amlinellol - newid defnydd tir gwag ar gyfer diwydiant Cais llawn - arwydd wedi ei oleuo'n allanol Cais llawn - estyniad i falcon Cais amlinellol - tŷ annedd Cais llawn - manylion mynedfa a ffyrdd ystad, ac ail-leoli cyffordd ffordd gyhoeddus ar gyfer parc bwyd/amaeth gyda lladd-dŷ (Datganwyd diddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd JR Jones ac ymneilltuodd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

Heddiw, wrth gwrs, defnyddir y trydan hwylus i oleuo a thwymo'r adeiladau.

Mewn man tywyll allan yn y wlad mae'n bosibl gweld llawer mwy o ser gan nad oes yno oleuadau artiffisial i oleuo'r awyr.

Cododd y lleuad i oleuo'r wlad.

Un enghraifft yw hon i oleuo'r pwynt.

I ddechrau - er bod y nofel hon yn sicr o oleuo cyfnod yn ein hanes i lawer o bobl - nid nofel hanesyddol yn yr ystyr arferol mohoni.

Nid oedd trydan mewn lleoedd i odro nac i goginio nac i oleuo a bu llawer o ddefaid o dan gladd am ddyddiau mewn ffermydd isel iawn.

Boed set neu wisgoedd, oleuo neu sain y mae ôl gofal ac ymroddiad.

Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.

Cyn tremu'r dyddiad - yn y gaeaf byddai eisteddfod y Babell - roedd eisiau gweld shwd noson fyddai hi, achos roedd rhaid cael noson olau leuad, i oleuo'r wlad i'r bobl fyddai'n gorfod croesi'r mynydd i ddod yno.

Mae'n bosibl mai un ddadl tros gael refferendwm yw y byddai'n gyfle i oleuo'r cyhoedd ynglyn â'i gynnwys ac i sicrhau gwerthiant sylweddol iddo.

Yr oeddwn i bob amser wedi ystyried y gyfres, Llên y Llenor, yn llusern i oleuo'r darllenydd cyffredin - cymwynas werthfawr yn achos y llenor arbennig hwn.

Yn sydyn o'u blaenau ac ymhell o danynt gwelent rimyn hir o dir wedi ei oleuo.