Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

olew

olew

Esso yn agor y burfa olew gyntaf yn Hwlffordd.

Yn ystod Ionawr hefyd, fe sychwyd tanciau olew mewn cerbydau ac mewn cartrefi.

Fe gafodd purfa olew enfawr Texaco ei hysgwyd gan gyfres o ffrwydradau ychydig oriau ar ôl storm fellt a tharanau.

Darganfuwyd gwaddodion helaeth o olew, nwy a glo dan y môr; gellir cloddio mwynau gwerthfawr megis gro, tun, manganis, copr a hyd yn oed ddiamwntau o'r môr.

Yn ystod teyrnasiad ei dad y darganfuwyd olew yno, ac yn naturiol golygodd hynny newidiadau mawr yn y wlad.

Mae ceir wedi'u gwahardd o'r canol erbyn hyn gan adfer rhywfaint o awyrgylch canol oesol y dre farchnad - cyn teyrnasiad y brenin glo a dyfodiad diwydiannau alcam, olew a dur i waelod Cwm Nedd.

Gellir amddiffyn metel rhag ymosodiadau rhwd trwy ei orchuddio a phaent, olew, neu rai metalau nad ydynt yn rhydu.

I'w coginio'n gynt a chadw mwy fyth o'r maeth gellir torri'r betys amrwd yn stribedi mân, eu rhoi mewn sosban gyda'r mymryn lleiaf o ddŵr a llond llwy fwrdd o olew'r olewydden neu flodyn yr haul.

Mae Saddam yn gweithredu blockade economaidd yn erbyn y Cwrdiaid hefyd - mae'n anodd cael olew, a rhai bwydydd.

Defnyddir grisial o'r fath gan beirianwyr electroneg mewn llu o gylchedau fel rhybudd lladrad, trap radar i reoli cylfymder, neu i arwain llongau olew i borthladd.

Roedd gan Mop wyneb gwritgoch a gwallt fel gwrych heb ei docio, ac roedd gwallt Jaco'n llyfn fel petai can o olew wedi ei dywallt arno.

Nid porthmona merched roedd y newydd-ddyfodiaid hyn, merched gwyn neu ddu i foddio shechiaid Arabia, fel yn yr hen ddyddiau cyn i'r shechiaid fagu cyfoeth o'r olew.

Roedd o'n crwydro'r byd ar danceri olew ac yn anfon llythyrau yn llawn lluniau i mi o bedwar ban byd.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Nodir pum peth sy'n llygru bywyd ysbrydol Cymru: y gwersylloedd gwyliau yng Ngheredigion, y cloddio am olew ym môr Iwerddon, y rocedi yn Aber-porth, yr orsaf niwcliar yn Nhrawsfynydd, a'r ymchwil am aur yn Sir Feirionnydd.

Ond yna fe ddechreuodd pobl droi at fathau eraill o danwydd, olew yn arbennig, a bu llai a llai o alw am lo, a bu'n ergyd farwol i'r diwydiant.

Darganfod olew ym Môr y Gogledd.

Nid eu bod gymaint â hyrmy'n fwy mentrus o ran lliw - glas a gwyrdd yw'r prif rai - ond mae eu maint helaethach, a'r ffaith eu bod mewn dyfrliw yn hytrach nag olew, yn cyfleu byd goleuach a mwy breuddwydiol.

150 yn marw mewn tân ar fwrdd y rig-olew Piper Alpha ym Môr y Gogledd.

Torrais ef yn stêcs taclus, a chyn hir yr oeddwn wedi cynnau tân, ac wrthi'n ffrio'r darnau mewn olew palmwydden.

Cau pura olew Texaco a BP yn Aberdaugleddau.

hylifau glanhau, inciau llungopi%wr a chlytiau sydd wedi'u mwydo mewn olew neu doddyddion.

Oherwydd problemau p^wer ac olew, y Llywodraeth yn gwahardd ceir rhag gyrru'n gyflymach na 50m yr awr, ac yn gorfodi sianeli teledu i ddiweddu eu gwasanaeth am 10.30 pm.

Gellir hefyd goginio stribedi betys, efo llyfiad o olew drostynt, yn y popty; neu eu crasu mewn llefrith.

Yma, yn y pentrefi a threfi bychain mae'n bosibl gweld sut oedd byw cyn i olew newid bywyd am byth i bobl y Gwlff.

Y mae cenhedlaeth ohonom yn fyw heddiw sy'n cofio cyfnod cannwyll yn y lloft, lamp olew yn y gegin, mawn yn y grat, ty bach ym mhen yr ardd, ceffyl yn y stabl, a siop bob peth yn y pentref.

Mae llawer o chwedlau am Dimitrius - ei wyrthiau a'r olew per a darddodd o'i fedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf bu rhywbeth tebyg yn digwydd ar rigiau olew ym Môr y Gogledd - ond nad desgiau oedd gweithwyr yn eu rhannu yno ond gwelyau fel y mae'r term Hot-bunking yn ei awgrymu.

Cymysgedd dyfrllyd o olew, siwgr a blawd soya yw'r prif bryd.

Balch oedd o gael y defaid yn ddiogel a throi i mewn gyda'r nos at y tân a golau cynnes nwy calor a lampau olew.

Ymysg yr enillwyr o Benmynydd oedd Dilwyn Owen a Dylan Jones am Baratoi Oen at gylch sioe; Arwel Jones a Medwyn Roberts am wneud crempog (a'i thaflu!!); Paul Parry ac Ann Williams am addurno drwm olew, Arwel Jones ac Aled Pennant am wneud cenel i gi, ac unwaith eto eleni, eu tim dawnsio gwerin.

Wedi pwyllgor sydyn, penderfynwyd gyrru negesydd at y fyddin oedd ar lawr y dyffryn gan gynnig ychydig gig, ychydig fara, ychydig win ac ychydig olew iddynt.

Dylid defnyddio olew llysiau i goginio'r pysgod a'r 'sglodion yn hytrach na brasterau trwythedig megis lard a margarin.

Cymerodd y wladwriaeth y prif gyfranddaliadau yn y cwmnËau olew, a gwladolwyd Banc Barclays.

Cynhyrchiad llwyddiannus arall ar gyfer Radio 4 oedd yr Afternoon Play: Taming The Wart, sef hanes gwir dau frawd o Orllewin Cymru a ddatblygodd olew perllysieuol âr gallu i wella rhai mathau o ganser.

Fel y mae yn wybyddus erbyn hyn, paentio mewn olew y mae Gwyneth ap Tomos ac y mae ei gwaith hithau eto yn dangos harddwch tawelwch a llonyddwch.

Er clod iddo, sicrhaodd Gadaffi - ar y dechrau, beth bynnag - fod cyfran o gyfoeth yr olew yn cael ei rannu'n deg rhwng y bobl.

Mewn partneriaeth â Stena Sealink ym mhorthladd Caergybi, bydd yr Awdurdod yn ymgyrchu dros reoli arllwys sbwriel gan longau fferi yn y môr, ac yn dilyn y côd ymarfer da ar gyfer olew a arllwysir yn y môr.

Uwchben y silff ben tân hongiai darlun olew mawr ac uwchben y darlun roedd llumanau gwŷr meirch, naill ai wedi eu rhwygo gan fwled neu eu bwyta gan wyfyn, ar ffurf croes mewn ffrâm wydr.

Roeddwn i dan yr argraff fod newyn yn taro gwlad oedd heb fwyd i'w roi i'w phobl ond, ar strydoedd Mogadishu, roedd yna farchnadoedd yn gyforiog gan fwydydd o bob math; cig, blawd, bara, siwgwr, ffrwythau, llysiau, olew, losin hyd yn oed.