Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

olion

olion

Craffwch ar y cerrig myllt o'ch cwmpas, yr ochr ucha'n llyfn ac olion plyciadau'r rhew ar yr ochr isaf.

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Os astudir rhannau hynaf y blaned Goch fe sylwir ar olion sianelau afonydd yn ymdroelli hyd-ddynt a gellir ei dyddio'n ôl i adeg y mynyddoedd tanllyd actif.

Hyd yn oed adeg lluwchio fe ai ef allan i chwilio ac i dyrchu am olion pawennau.

Gallwch weld olion y lagwnau ar ochr ddwyreiniol a gorllewinol Bae Langland.

Ond ychydig olion arwynebol sydd ar ôl o bobl Oes yr Haearn, a nemor un traddodiad o'u gweithgareddau heblaw eu bod hwythau fel eu disgynyddion yn gorfod byw ar gynnyrch gwlad.

Wrth agor yr iet, a throedio trwy'r stecs sy ym mhob adwy, maen clo ar waith y dydd oedd canfod ymysg olion mynd a dod ôl olaf y fuwch ddi-ras na ddychwelai mwy.

Ac yr oeddent yn ffieiddio'r defodau a'r gwisgoedd a'r addurniadau eglwysig anysgrythurol a gyfrifent yn olion Pabyddiaeth.

Erbyn i ni gyrraedd Lavernock mae'r marl gwyrdd wedi troi i fod bron yn ddu, ac yn yr haenau du yma ceir olion esgyrn pysgod ac ymlusgiaid mawr.

Bu pobl yn byw yma ers yn fore iawn, ac y mae olion o Oes yr Haearn, bedwar can mlynedd cyn Crist, yn profi iddynt dderbyn eu cynhaliaeth o'r tir a'u hamddiffynfa yn yr hen gaerau a godwyd ar hyd a lled sir Aberteifi, a rhyw chwech ohonynt ar lannau Wyre o Ledrod i Lanrhystud ac un o fewn i'r plwyf, sef Caer Argoed.

Wrth i ni edrych ar waith y rhan fwyaf o feirdd Cymraeg trwy'r oesoedd, ni fyddwn yn gweld mwy nag ychydig iawn o olion i ddangos iddynt gael addysg glasurol, ac iddynt fod yn ymwybodol o'r traddodiad Groeg a Rhufeinig mewn llynyddiaeth a barddoniaeth.

`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.

Yn Angkor gwelsom olion y diwylliant gogoneddus a flodeuai rhwng y nawfed a'r bymthegfed ganrif ac yna a ddiflannodd yn sydyn.

Yr oedd disgrifiadau daearyddol yn rhan o batrwm cyfan hanes, ynghyd ag astudio enwau, hen olion, a hynafiaethau o bob math.

I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.

Po fwya' y syllwn i ar y ddaear, y mwyaf o olion y trueiniaid oedd yno darnau o'r sgarff draddodiadol, sandalau, crib, yn dal i orwedd lle syrthion nhw'r nosweithiau hunllefus hynny.

Gadawodd y cenhadon eu hôl yn ddigamsyniol ar y Casiaid, ac mae olion eu heefengylu brwd i'w canfod o hyd yn yr eglwysi, yr ysgolion, a'r ysbytai, heb sôn am barlyrau lle cenir 'Mae gen'i dipyn o dþ bach twt' a lle bwyteir bara brith ac yfed te o lestri sabothol yr olwg.

Fel y dengys y map, y mae Ceredigion yn weddol gyfoethog mewn olion Oes y Pres.

Tra eich bod wrthi, sylwch hefyd fod darnau mawr o dywodfaen frown i'w gweld ar draws y traeth, a bod olion crychdonni'r Môr Triasig yn ogystal ac olion craciau a wnaethpwyd yn y mwd wrth iddo sychu dan yr haul Triasig tanbaid.

O edrych o gwmpas Beirut, roedd olion y rhyfel yn amlwg; mi roedd rhai adeiladau wedi'u dinistrio'n gyfan gwbl.

Er ei fod yn edrych yn un llawn, nid yw Ceredigion ar y cyfan yn sir gyfoethog mewn olion bywyd cyntefig.

Yr heddlu yn defnyddio dull newydd o ganfod troseddwyr, olion bysedd.

Mae'r hen ddyn wedi ei ladd, ond mae olion yr hen natur yn parhau.

Fel Dick Chappell, mae Bert Isaac yn cael ei ddenu at olion diwydiant, ond yn ei achos ef mae'r diddordeb yn esgor ar waith gwahanol iawn.

Credaf y buasai gan yr Athro fwy o achos i lawenhau, yn hyn o beth pe buasai fyw heddiw, ond yr wyf yr un mor sicr y gwelai ormod o olion o'r drwg hwn ym mywyd y genedl i beri iddo roi ei saethau i gyd yn ôl yn eu cawell.

Ym myd natur ceir enghreifftiau syfrdanol o greaduriaid sydd wedi llwyddo i ymaddasu i'w hamgylchedd yn ogystal ag olion y rhai a fethodd, megis y dinosoriaid diflanedig.

Myn rhai bod ogof a fu'n lloches iddo ynghudd rywle yng Nghraig Irfon a bod rhywun wedi darganfod olion lludw o'i dân wrth gloddio yng ngenau'r ogof.

Fel enghraifft o hyn ceir hanes iddo geisio gychwyn ffatri i wneud halen trwy ymageru dþr y môr ond methiant fu hyn ac erbyn heddiw does dim o olion y gwaith ar gael.

Doedd ei ymweliad â'r Unol Daleithiau ddim yn eithriad ac yntau'n teithio o gymuned Gymraeg yng nghwmni rhyw Gymro neu'i gilydd i weld arwyddion cynnydd neu olion Rhyfel Cartref.

Mis yn ddiweddarach cânt sylw y drudwennod, ac mae olion y wledd i'w gweld ar foned y car o flaen y tþ 'cw pob blwyddyn.

Gwelodd y ddau yr olion esgidiau hoelion yn mynd i bob rhan o'r tŷ, ond ddim i'r llofftydd.

Mae capten tîm Libanus, Darren Maroon, wedi ei gyhuddo o fod ag olion cyffur anghyfreithlon yn ei ddwr.

Efallai mai olion (neu'n wir, ddiffyg olion) y diwydiannau yw'r rheswm dros hyn.

A cherrig moel ydy waliau'r tþ, oddi mew ac oddi allan, llechi glas Eryri sydd ar lawr y stafell fyw, a lle tân anferthol, gyda'r trawst llwyd-ddu gwreiddiol yn dangos olion canrifoedd o'i lyfu gan fflamau, yn ganolbwynt i'r tþ cyfan.

Dechreuodd fyfyrio ynghylch arwyddocad enwau megis Bod Drudan a Myfyrion, ac am yr olion hynafiaethol a welid yno ac yng Nghaer Leb ac y tybid eu bod yn feddrodau ac yn allorau'r hen grefydd.

Mae olion sefydliad llawer cynharach na'r pentref ar fynydd Yr Eifl, y tu cefn i Lanaelhaearn.

Fel enghraifft o hyn ceir hanes iddo geisio gychwyn ffatri i wneud halen trwy ymageru dŵr y môr ond methiant fu hyn ac erbyn heddiw does dim o olion y gwaith ar gael.

Os mai eich syniad chi o daith ddaearegol yw i fynd allan i edrych ar haenau gweddol amlwg o greigiau er mwyn dod o hyd i olion deinosoriaid, yna dyma'r daith i chi!

Ef, wrth fynd â mi o gwmpas y wlad i weld hen olion Rhufeinig a chromlechau a chutiau Gwyddelod a phethau felly, a'm symbylodd i brynu llyfrau ar bynciau hynafiaethol Cymreig.

Yn nhaleithau'r De, yng nghwmni Cymro o'r enw Eleazar Jones, y gwelodd gynta' olion yr ymladd mawr:

Ar y llawr llechi yr oedd olion esgidiau dyn - esgidiau hoelion mawr.

Mae eu dawnsio gwerin hefyd yn dangos olion o geisio trechu'r athreitus, fel maen nhw'n ei alw fo.

Daethpwyd o hyd i olion deinosoriaid ar hyd y traeth yma, felly, Iwc dda i chi wrth edrych o gwmpas - efallai y dowch chi o hyd i ddarn o un o'r ymlusgiaid mawr!

Olion blino efallai.

Ceir olion mewn lluniau a dynnwyd o'r awyr sy'n dangos bod ŷd yn cael ei dyfu gerllaw'r ddinas yn amser y Brythoniaid.

Hyd lannau rhynllyd Afon Daugava, roedd olion hen fawredd a dylanwad diwylliannau eraill ond, ym mlwyddyn gynta' rhyddid, roedd hi'n wlad dan warchae o'r tu mewn.

Mae olion ei hen droeon gwreiddiol i'w gweld yn glir yn rhan ddeheuol plwyf Llangristiolus rhwng Fferam Fawr a Phen Crug.

Roedd yna ddigon o olion pedolau a llithriadau yn y llaid, ond dim byd arall.

Dengys yr olion fod Tre'r Ceiri wedi'i chadw gan y Celtiaid drwy'r drydedd a'r bedwaredd ganrif, er bod y Rhufeiniaid yn cartrefu ar yr un pryd yn Segontiwm, eu caer hwy yng Nghaernarfon.

Chwilio am olion cwango