Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ollwng

ollwng

Byddai wyth o ddynion yn y 'criw dal rhaff'--saith i ollwng y rhaffwr dros yr ymyl a'i ddal yn ddiogel wedyn tra byddai'n gweithio, a'r wythfed, yr hynaf fel rheol yn gwasanaethu fel 'flagman'.

Tra'i fod o'n gwisgo amdano'n gynnes, gwthuiodd Mam y bygi dros riniog y drws a'i ollwng i lawr i'r palmant.

Ar ôl i ni fod yn y farchnad, ac i Anti Nel brynu menyn yno, mi ddaethon ni'n ôl yma wedyn i ollwng y negas, a mynd i lawr i'r cei, i edrach os oedd cwch Uncle Danial yno.

Gall craciau yn y selydd ollwng dwr i mewn fel y gallasai'r awdur fod wedi dysgu ar ei les yn y dyddiau cynnar.

Wel, mae gen i fol, dydw i ddim yn ffit ac mi fedrai ollwng pêl sy'n cael ei thaflu ataf i.

Byddaf yn llogi hofrennydd i ollwng tocyn record i lawr y simdde yr wythnos nesaf.

Roedd wedi diflannu cyn i mi fedru cael fy ngwynt ataf a'i ollwng allan.

Roedd yn anodd gan y bardd hwn ollwng ei afael ar gerdd heb geisio ei gwella, dro ar ôl tro.

A'i nain wedyn, yr oedd honno yr un mor gyndyn i ollwng ei gafael, ac yn ôl pob golwg, hyd yn oed yn gwrthryfela yn ei henaint, yn codi ei llais gynnau, yn erbyn pwy tybed?

Gwnaed lliaws o awgrymiadau, o ddodi llonaid llwy de o soda golchi yn ei chwpanaid boreol, i ollwng blychaid o lygod bach yn rhydd yn ei hystafell wely'r nos; eithr nid oeddynt yn ymarferol.

Y mae'r ddogfen hanesyddol hon yn nwylo Llywodraeth Ffrainc ar hyn o bryd ac mae'n gyndyn i ollwng gafael arni.

Yn hytrach na cheisio ymgodymu â holl gymhlethdodau'r byd sydd ohoni o'r cychwyn cyntaf, y dull arferol o weithredu mewn Economeg yw symleiddio cymaint ag sy'n bosibl ar y cychwyn, ac yna symud ymlaen i ollwng y tybiaethau dechreuol fesul un gan sylwi ar y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'r casgliadau gwreiddiol.

Trwy lwc a bendith newidiodd y ddau grychydd eu cwrs ac yn lle mynd drosodd i'r 'Ynys Werdd', troesant eu hwynebau tuag adref gan ollwng eu llwyth ar Fanc Dihewid rhyw bum milltir o Silian.

O ollwng tybiaeth (viii) felly, gellir hepgor tybiaethau (iv) a (v) yn ogystal.

Cydiodd yntau yn y tennyn ac fe'i codwyd i'r awyr ac nid oedd wiw iddo ollwng gafael.

Eithr wrth ollwng Seren o'i haerwy byddai'n rhaid gwylio'i chyrn.

Oddi yma gallant ddisgyn i'r lefel wreiddiol drwy ollwng goleuni.

Cicio wrtyh i chwi ei godro a chornio wrth i chwi ei gollwng - "Wel diolch i'r nef mai dyma'r tro olaf i mi dy ollwng di% meddwn i ryw fore.

Ffurfir y glannau neu'r cloddiau bychain o bobtu'r afon yn naturiol wrth i'r afon ollwng gwaddod ger y sianel pan fydd yn gorlifo.

Gallai Mali ddeall na fynnai Merêd ollwng gafael ar Dilys.

Ond mi allech ollwng iddi hi efo Nedw a gwenu a chwerthin y faint a fynnech chi heb ennyn dig awdurdod na thynnu gwg y sefydliad.

Trwy alw ei bobl ei hun at ei chenhadaeth arbennig ymhlith y bobloedd ceisiai ollwng yn achubol rydd ar yr holl ddaear nerthoedd y Deyrnas, y grymoedd yr oedd ef ei hun yn gyforiog ohonynt.

Bydd yr atomau Nd yn gollwng goleuni laser drwy ddisgyn i lefel egni ychydig uwchlaw'r gwreiddiol, yna'n disgyn ar unwaith i'r lefel wreiddiol heb ollwng goleuni.

'Yn groes i'r drefn arferol, mae modd i bawb ddarllen y cynnyrch wrth iddo gael ei ollwng o ddwylo'r beirdd a chael cyfle unigryw hefyd i gynnig eu sylwadau answyddogol ar y cynnyrch ymhell cyn i'r beirniad swyddogol wneud ei waith," meddai llefarydd.

Mae gan yr atomfa hawl i ollwng rhywfaint o sodiwm hypochloreid i'r môr i stopio gwymon a phlanigion dyfu y tu mewn i'r pibellau sy'n cario dwr i'r môr.

Mae'n bosib iawn, ond tyben nad ydi'r rheswm yn llawer symlach na hynny ac mai'r cyflyr cynnar sy'n gyfrifol þ yr hen syniad hwnnw na ddylai merched bach frathu a chicio a dyrnu ac na ddylai bechgyn bach ollwng dagrau?

Yn y pen draw, bydd y gwaddod yn cael ei ollwng gan yr afon neu yn cael ei gario i'r môr.

Wnaeth e ddim llawer o lanast, gan i'r ficer 'i glywed e'n brefu am ddeuddeg o'r gloch y nos a'i ollwng e'n rhydd.

Yn y cyfeiriad hwn y syniadau o waredigaeth trwy gyfnewid un am y llall a thrwy ollwng gwaed sy'n ganolog.

Gallai weithiau ollwng gair neu ddau oedd yn brifo.

Deallir erbyn hyn bod yna 5000 litr o'r cemegyn wedi ei ollwng drwy'r pibellau i'r môr.

Rhwygwyd yr awyr gan fellten, cododd y gwynt ac agorodd yr awyr gan ollwng galwyni o ddŵr.

Melltithiodd ei gloffni ac ymdrechu i gyflymu ei gam heb ollwng ei afael ar y cwdyn.