Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

olynol

olynol

Er y byddai'n bosibl, wedi i broject tair blynedd ddod i ben yn llwyddiannus, i'r Swyddfa Gymreig gytuno i ariannu project newydd yn yr un maes i'w gyflawni o fewn cyfnod penodol pellach, nid ystyrir fod profiad o gyflawni project blaenorol yn fwy manteisiol na phrofiad diweddar yn y dosbarth ac anarferol fyddai penodi swyddog project am ddau gyfnod yn olynol.

Ar y llaw arall fe dorrodd Phil Price 70 am y trydydd diwrnod yn olynol efo rownd arbennig o dda - 68 - mewn gêm gyfartal efo Retief Goosen.

Roedd gêm gyfartal yn ganlyniad teg ac o leia wnaeth Abertawe ddim colli am y pedwerydd tro yn olynol.

Hon oedd ail fuddugoliaeth Caerdydd yn olynol dan Alan Cork.

am yr ail sadwrn yn olynol bydd wrecsam yn teithio i swydd efrog gan ymweld a huddersfield town tîm sy'n ei chael hi'n go anodd i sgorio gartref.

Roedd Adrian Dale, capten dros-dro Morgannwg, yn gobeithio gweld Northants yn batio am yr eilwaith yn olynol ond fe sgoriodd y tîm cartre 446 am saith cyn cau eu batiad ar ôl sicrhau y pedwar pwynt bonws.

Yn rownd gyn-derfynol y dynion yfory bydd Andre Agassi yn wynebu Patrick Rafter am yr ail flwyddyn yn olynol a phencampwr chwech o'r saith mlynedd ddiwetha, Pete Sampras, yn wynebu Vladimir Voltchkov.

Dyma'r unig dro yn yr ugeinfed ganrif i'r un bardd ennill y Goron am y trydydd tro yn olynol.

Peth arwynebol o safbwynt perthynas hanfodol yw trefn allanol y stribed olynol.

Mae'r Barri, felly, wedi colli pedair gêm yn olynol.

Rhifaf yr elfennau yn awr yn ôl egwyddor dibyniaeth gydberthynol, nid yn ôl trefn linynnu olynol allanol yn rhediad cystrawen, a hynny er mwyn esbonio fy mhwynt.

Spadea yw'r chwaraewr gyda'r record salaf ar y gylch-daith - mae wedi colli 22 gêm yn olynol.

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i BBC Cymru ennill y wobr hon, a hynny am ddramâu treiddgar ar y ddau achlysur.

Cafodd y Saracens eu concro gan Gaerdydd am yr ail benwythnos yn olynol.

Ar ôl sefydlu'r frawddeg seml, nid yw datblygiad pellach - datblygu gair unigol i fod (a) yn ymadrodd, neu (b) yn gymal, neu amrywio trefn olynol - ond yn fater o estyn yr un cynhwysion.

Nid hap a damwain yw'r ffaith i gwmni Eingl-Gymreig o Aberystwyth gyrraedd prawf terfynol yr žyl Brydeinig un act am y tair blynedd diwethaf ac ennill ddwywaith yn olynol.

Hwn yw'r ail enwebiad yn olynol i S4C, yn dilyn Yr Enwog Ffred y llynedd, a'r trydydd o gofio am Hedd Wyn yn '94.