Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

open

open

Ond ddiwedd yr wythnos hon y llynedd pan oeddwn ar wyliau yn yr Alban yr oedd yno goblyn o le wedi i hogan bedair ar bymtheg oed redeg bron yn boeth at Tiger Woods ar ddeunawfed grîn y Scottish Open a rhoi clamp o sws iddo fo a dawnsio o'i gwmpas.

Er mor boblogaidd y digwyddiad gyda gwylwyr gartref mae trefnwyr golff yr Alban wedi addo mai ar eu gwaetha nhw y digwydd yr un peth yr wythnos hon yn y Royal and Ancient yn St Andrews lle chwaraeir yr Open eleni.