Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

optio

optio

Galwyd ar i ysgolion Cymru i wrthod pwysau newydd eleni gan y Toriaid i optio allan o'r gymuned leol ac i mewn i reolaeth uniongyrchol gan y Toriaid a'u Quangos.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.