Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orchest

orchest

Un peth ydi bod yn fwriadol ddigri a pheri i eraill chwerthin þ mae yna orchest a boddhad yn hynny.

Synfyfyrio wedyn am orchest David Davies yn y De gyda'r Fasnach Lo a Dociau'r Barri.

Dyma un o'r materion y rhoes y Trefnydd, J. E. Jones, fwyaf o sylw iddo a chryn orchest ar ei ran oedd ei lwyddiant i gyhoeddi a gwasgaru cymaint o ddefnydd.

Wrth sôocirc;n am yr orchest ddiweddaraf hon i gynnyrch animeiddiedig S4C, dywedodd Cyfarwyddwr Animeiddio'r sianel, Chris Grace, oedd hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol ar y gyfres, "Mae'r gamp o ennill yr Emmys hyn yn rhoi boddhad dwbl, gan eu bod nhw'n cydnabod y dalent sydd yng Nghymru a swyddogaeth alluogi S4C yn dod â'r cyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac arloesol hwn at ei gilydd.

Fe laddodd Gwaeth foed dri-ar-ddeg o fleiddiaid hefyd ac mae'n siwr fod yna enw lle yn y cyffiniau yn coffa/ u'r orchest honno ar un adeg ond fe ddiflannodd pob cof amdano ysywaeth.

'Ro'n i'n tynnu 'mlaen mewn dyddiau cyn dysgu nofio ac 'roedd hynny'n fwy o orchest na dim arall.