Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orchfygu

orchfygu

Ar ôl rhyw ddeng munud o'r distawrwydd yma, daeth llais dros yr uchelseinydd i gyhoeddi y byddai 'cwshti' yno'r noson ganlynol yn ogystal, ac y byddai'r "hogiau lleol yn siwr o orchfygu% eu gelynion y tro nesaf.

Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.

Arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith a fu ers hynny yn cynnal crwsâd i orchfygu'r dynged a ragwelai Saunders Lewis.

Er bod gan India a China boblogaeth uwch nag Affrica, llwyddodd y ddwy wlad honno i orchfygu newyn drwy gynllunio'n ofalus.

Efallai i'r ymerodron hyn gredu y gallent orchfygu angau trwy godi cofadeiladau anferth iddynt eu hunain, a fyddai'n para wedi iddynt hwy orffen eu dyddiau ar y ddaear.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Ond llwyddodd Idris i orchfygu pob temtasiwn a magu dewrder i gwrdd â hwy bob un.

Byddai'r hen bobol yn deud y gallasai Owain orchfygu mil o wþr wrth iddynt geisio dod i'r ogof.

Mae hefyd yn dangos yn eglur greddfau naturiol yr artist yn Judith - yr angen i ddehongli pethau yn eu ffurfiau mwyaf elfennol, i ymdoddi i mewn i fyd natur yn hytrach na'i orchfygu, ac i gario synnwyr o sensitifrwydd ar bob achlysur.