Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orchudd

orchudd

Weithiau mae'n edrych fel rhidyll symudol anferth o oleuni, fel yn 'Y Gogarth o Fangor Uchaf', lle mae'r haul yn llithro'n esmwyth trwy orchudd tenau o gymylau i oleuo'r môr.

Eisteddasom ar gerrig oedd bron o'r golwg dan orchudd o fwsog a chen llwyd wyrdd ac oren a bonion clustog Fair yn argoeli gwledd o liw yn yr haf.

Pan fo'n tyfu ar y wal neu dros foncyff coeden, mae'n orchudd da i adar allu nythu a chlwydo ynddo.

afon ddieithr oedd hon, a 'r hen glogwyni cynefin, cerrig llam cynefin, yr ynysoedd bach cynefin i gyd dan orchudd dyfnder anghynefin anghynefin beth am rasus cychod?

Pan gyrhaeddodd yno tua hanner nos canfu'r waled yn yr union fan lle'i gadawodd - ond o dan orchudd o eira.

Dyma dir a fu'n gartref i gyndadau'r fro a'r cylch, rhai ohonyn nhw â charreg neu golofn i nodi'r fan, ac eraill â dim ond tywarchen las yn orchudd.

Diflannodd y perthi o dan orchudd o flodau gwyn, agorodd y blodau eu petalau, ac yn y bore bach canai cor yr adar gyda arddeliad.

Rhag ofn i rai ohonoch feddwl am ddefnyddio llwch llif, ni fuasai'n syniad newydd, cofiaf y syniad o'i ddefnyddio yn orchudd rhwng planhigion yn tyfu gael ei weithredu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Sylw Mr Wynn Thomas arno yw, "Teg gwerthfawrogi cywirdeb Calfinaidd yr ebychiad hwn, ond sylwer hefyd pa mor fregus y mae'n peri i orchudd gras ymddangos".

Ac mae'r tirwedd hefyd yn rhan o achos y cynefindra - y dyffrynnoedd gwyrdd rhwng y bryniau yn y glaw llwyd, y meini a'r cromlechi yn fud dan orchudd y niwl, y goeden unig yn y gwynt.