Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orffen

orffen

Nid oedd digon o gyfleoedd i ieuenctid ar ôl iddynt orffen addysg Gymraeg: dylid sicrhau gwell cyfleoedd iddynt ddefnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith drwy wneud y Gymraeg yn fwy hanfodol fel cymhwyster ar gyfer swyddi.

Roedd symffoni hynod swynol yn cael ei chwarae a chefais ar ddeall wedi i'r rhaglen orffen mai Symffoni Cyntaf Vasily Sergeyevich Kalinnikov ydoedd.

ar ôl iddyn nhw orffen eu pryd aeth miguel a debra i ddawnsio.

Efallai i'r ymerodron hyn gredu y gallent orchfygu angau trwy godi cofadeiladau anferth iddynt eu hunain, a fyddai'n para wedi iddynt hwy orffen eu dyddiau ar y ddaear.

Rhaglen anodd i unrhyw gantores gyda Smetana i gychwyn ei rhaglen a Verdi i orffen.

Am hanner dydd, cinio, yr unig dro yn yr wythnos y caem gig, a phwdin reis digymar Mam i orffen.

Mae'r albym di hanner ei orffen.

Erbyn i Therosina orffen hefo chdi, fydd 'na fawr ddim ar ôl ohonat ti.

Methodd 75 o chwaraewyr orffen eu rowndiau oherwydd niwl - Nick Faldo yn un ohonyn nhw.

Gellid galw rhai dwsinau o droeon a gweld y cert neu'r olwynion ar eu hanner, rhyw gychwyn arnynt, yna mynd at orchwyl a mwy o alw i'w orffen.

'Roedd Ifan Jones (Peris) yn agos at orffen pan ddechreuais i ar y tripiau, felly ni chefais y fraint o'i gwmni ef, ond cofiaf ef a'i frawd Richard (Dic Peris - tad Arwel, Hogia'r Wyddfa).

Ond chafodd Elen ddim cyfle i orffen y frawddeg.

"Mi gei di weld." Brysiodd Douglas i orffen ei fwyd.

Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae.

Fedra'i byth fynd yn ôl at Gwyn a'i Dylwyth heb orffen y llifogydd, ond cyn suddo'r lle mi leiciwn orffwys unwaith dan do diwael yn glud dros nos.

Erbyn i'r chwarae orffen ddiwedd y dydd yr oedd Sri Lanka mewn dyfroedd dyfnion ar 98 am chwech.

Yn yr ail brawf sydd i orffen yn Trent Bridge heddiw mae angen 79 o rediadau ar Zimbabwe i sicrhau bod Lloegr yn gorfod batio am yr eildro.

Wedi iddi orffen, dechreuodd y wraig a eisteddai ar ei phwys ganu:

All neb orffen uwchben Arsenal yng Ngrwp B Cynghrair y Pencampwyr wedi iddyn nhw guro Sparta Prague 4 - 2 yn Highbury neithiwr.

Mae'n dal yn bosib i Langefni orffen ar y brig, ond bydd raid iddyn nhw ennill y naw gêm sydd gynnon nhw ar ôl.

Dylai pob disgybl, erbyn iddo orffen ei addysg orfodol yn 16 oed fod wedi dod yn eithaf rhugl yn y Gymraeg.

`Rydw i wedi blino.' `A finne,' meddai Debbie, `Fe fydda i'n falch i ...' Ni chafodd gyfle i orffen yr hyn yr oedd hi'n mynd i'w ddweud oherwydd gwthiodd dyn heibio iddi, gafaelodd yn y bag arian a rhedodd lawr y stryd.

Erbyn iddo orffen roedd ei chopa'n llosgi, ei hwyneb yn goch a'i thymer drwg hithau'n dechrau fflamio ond chafodd hi ddim cyfle i ymollwng.

Tri thrac i orffen y casgliad - Dear Blue, cân serch;Wake Me Up, ac Ofn Gofyn syn gyfarwydd iawn i wrandawyr Gang Bangor - cân sydd efallain fwy nodweddiadol o ganeuon Topper.

I orffen, hoffwn ymdrin â Llythur i'r Cymru Cariadus o safbwynt gramadegol.

Wel, i orffen y stori, fe wrandawodd arnon ni'n ddigon tawel, ac fe gymrodd y 'suspension' mewn ysbryd da cyn belled ag y gallen ni weld ...

Mae cricedwyr Lloegr yn paratoi am y drydedd gêm brawf yn erbyn Pakistan yn Karachi ar ôl i ddwy gêm gyntaf y gyfres orffen yn gyfartal.

Pe gwireddid y stori mawn yma buasai'n ddoeth inni fod yn fwy gofalus o gynnwys y bagiau gyfu (growbags) ar ôl i dyfiant y cnydau haf ynddynt orffen.

I orffen y rhaglen fe gawn ni gyfraniad gan unigolyn sydd wedi chwarae mewn nifer o grwpiau dros y blynyddoedd.

Doedd dum un pwynt i Michael Schumacher a fethodd orffen y ras.

"Wel, mae'n debyg fod y peth wedi effeithio arno fe, oherwydd wythnos ar ôl iddo orffen 'ma roedd e'n sâl yn 'i wely a Doctor Wills o'r pentre gydag e bob dydd." Bu distawrwydd yn y swyddfa am funud a'r Cyrnol yn edrych yn feddylgar ar y to.

Ar ôl iddo wrando arnyn nhw'n canu ac ar ôl iddo orffen gwylio'r lluoedd o bobl yn mynd ynghylch eu busnes, penderfynodd e fynd i'r caffi i gael rhywbeth i fwyta.

Cau eich Dogfen Ar ôl ichwi orffen gweithio gyda'r ddogfen ewch at y ddewislen File a dewiswch Close.

Dibyniaeth gydberthynol Dyna orffen felly y rhan gyntaf o'r hyn sydd gen i i'w ddweud - sef pam mai hon yw brawddeg bwysica'r iaith ac yn graidd i gynllunio'r dysgu iaith.

Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia bechod tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

A llwyddiant drwy chware rygbi agored, cynhyrfus a chreadigol--dyma'r adladd a adawyd gan hyfforddiant athrylithgar pobol fel Ieuan Evans, Carwyn James a Norman Gale I orffen y flwyddyn arbennig hon, roedd y Clwb i gyflawni taith genhadol i Ganada, a dyna pryd, o bosib, y gwnaeth Carwyn un o gamgymeriade prin ei yrfa, pan fynnodd bod gwragedd y chwaraewyr i gael y cyfle i ddod ar y daith Ar y pryd, roedd iwfforia'r tymor dros bawb oedd yn gysylltiedig â'r Clwb, ac ...

Mae hi'n nos erbyn i'r côr orffen canu a chael gwybod y bydd yn rhaid gwneud yr un peth unwaith eto yn dilyn seibiant o hanner awr.

Ni allai'r brecwast orffen yn ddigon cyflym, a'r funud y symudodd yr ymwelydd o'r bwrdd rhuthrodd fy mam i fyny i'w ystafell a gweld bod y lliain glân eto yn llinellau duon drosto.

Ar ben hyn oll, cur pen oedd ceisio'i orffen mewn pryd.

Cyn i ni orffen y chwibaniad cyntaf cyntaf dyma'r law galed honno ar draws ein gwynebau nes yr oeddem ein dau yn rowlio dan y sêt.

Serch hynny, roedd hi'n nosi'n braf ac oedodd pawb y tu allan ar ol i'r marchlud orffen ysgythru hetiau-dewin pigog y Silvretta yn ddyfnach eto i'w cefndir o ros golau.

Newydd orffen cwrs yn y 'Tech' ym Mangor y mae Becca ac yn gobeithio dechrau cwrs 'astudiaethau cymdeithasol' ym Mhrifysgol Manceinion yn yr Hydref.

Wedi tyllu tipyn ar y cerrig bras sydd ar lawr maent yn llenwi'r twll o'r bron hefo powdr ac yna rhoi tipyn o faw i orffen ei lenwi ac yn ei guro i lawr er mwyn ei wneud yn airtight a thanio'r fuse yr un fath â'r twll mawr.

Er bod job hir a digalon o'i flaen o, mi fydda fo wedi hen orffen ymhell cyn i ddymuniad y sloganwr gael ei wireddu.

A mae'r trefnwyr wedi gofyn i gefnogwyr Richard Burns beidio gwneud dim allai effeithio ar obeithion Marcus Gronholm o orffen y rali.

Roedd Aled heb orffen y darlun, ac mi arhosodd - o'i wirfodd - i'w orffen o.

Ar ôl i Bobol y Cwm orffen ac i Dad fynd allan am beint roedd Modryb wedi rhoi pregeth i Mam ar sut y dylai plant ymddwyn wrth y bwrdd bwyd.

Yr oedd hwn i fod yr un mor safonol a'i Synopsis ar fathemateg, ond yn anffodus bu farw cyn iddo ei orffen ac aeth y llawysgrif ar goll.

Yna cafodd ei frecwast yn y gegin ac wedi iddo orffen daeth y forwyn i glirio ar ei ôl.

Cafodd gobeithion Lerpwl o orffen yn nhri ucha'r Uwch Gynghrair - ac o chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesa - hwb neithiwr.

Felly'r bobl a adawodd y r Eglwys ac y sy'n honni medru sylweddoli gweledigaeth yr Eglwys o'r tu allan iddi--yng ngrym y gallu a drowyd ymaith, ond sydd heb orffen ei ddylanwad, y llwyddant hwythau.

Doedd byw na bod na châi weld y tū newydd oedd ar fin cael ei orffen.

Gan wylio'r ychydig deithwyr yn dringo i mewn i bum cerbyd y trên meddyliodd David pa mor falch y buasai i orffen y trip hwn a chael eistedd o flaen tân cynnes braf gartref.

Profedigaeth chwerw iddo fu claddu ei fab ieuengaf, Robert Daniel Evans, newydd orffen cwrs o addysg a enillodd trwy ysgoloriaeth yn Ysgol Sirol Y Bala.

' Digwyddai fod y torrwr beddau'n gweithio'n hwyr ac yn gorfod saethu carreg fawr cyn y gallai orffen agor bedd.Does braidd dim na all gwrachod ei wneud.

Tebyg iawn mai'r rheswm am i'r arferiad orffen oedd bod gormod o ieuenctid yr ardal wedi gadael i chwilio am waith.

Ac fe aeth ymlaen i ddarllen 'Adnabod' - a gwyddwn cyn iddo orffen mai honno oedd ei gân oedd yn mynegi'r hyn yr oedd ef yn dyheu amdano - sef gweld cariad ac ewyllys da yn bodoli rhwng pobl o wahanol genhedloedd.dyma Waldo'n gofyn iddo a oedd ganddo lamp beic i'w gwerthu.

'Amseru gwych iawn - mi fedra i gael y plant i orffen y gwaith i mi.

Newydd orffen ei ginio yr oedd William Parry, un o'r cymdogion, ac yn croesi cae gerllaw Tyddyn Bach pan glywodd sŵn ergyd, ond ni chymerodd fawr o sylw o hynny.

Roedd cyffro mawr ar gae Sain Helen, Abertawe, neithiwr yn y Cynghrair Un-dydd Cenedlaethol wrth i Forgannwg a Sir Warwick orffen yn gwbl gyfartal.

"Fe arhosodd ar ol y pnawn 'ma i orffen y darlun." Agorodd y drws a arweiniai i'r cyntedd, a galw drwyddo.

Mae Pontypridd yn seithfed a Llanelli yn bumed a'r ddau dîm yn awyddus i orffen yn y pum ucha er mwyn cael chwarae yng Nghwpan Heineken Ewrop y tymor nesa.