Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orffennol

orffennol

Er mai yn y blynyddoedd 1909 ­ 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.

Darnau o orffennol, neis iawn ond cwbl anadferadwy, ydyw pethau felly erbyn hyn.

Clywais ef yn dweud iddo eistedd oriau wrtho'i hunan ar y bryn a elwir 'The Hill of Tara' - hen gartref Uchel Frenhinoedd Tara - yn myfyrio am hen orffennol y genedl Wyddelig, a bron, meddai ef, na allai weld yr hen ogoniant yn rhithio o flaen ei Iygaid wrth eistedd yno.

Dyna'n fyr orffennol Cymru i mi.

Yn wir, mae fy ymchwil i orffennol y teulu yn rhan bwysig o'm hunangofiant.

Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.

Lle i'w thaid ail-fyw ei orffennol, y gorffennol hwnnw y gwnaethai cofio amdano ef mor biwis yn ystod y dyddiau diwethaf.

Mae hyn i gyd yn annistryw, y tu allan i Amser, ond yn ol ein cyfri a'n henw ni yn orffennol.

Gwelai Myrddin Tomos orffennol ei fywyd yn loyw o flaen ei lygaid, cwrs ei flynyddoedd yn eglur, fel caeau sofl tan loer y cynhaeaf.

Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.