Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orfod

orfod

Taith bleserus, heb orfod dringo gormod na dychwelyd yr un ffordd, yw'r un i fyny Llwybr y Mwynwyr at Lyn Glaslyn ac yna i lawr Llwybr y Pyg.

Cadarnhaodd Donal Lenihan, rheolwr Llewod 2001, ei fod wedi siarad â Graham Henry, ac iddo orfod cael caniatad Undeb Rygbi Cymru i wneud hynny.

Mae'n ddrwg gennyf orfod eich codi o'r gwely, meddai'r Arolygydd yn swta, ond mae gennyf warant i chwilio'r tŷ yma,' a chan chwifio'r papur yn ei law camodd dros y trothwy.

Y tro cyntaf y bu Waldo yn Iwerddon, dywedodd wrthyf iddo orfod teithio 'mhell cyn y gallodd glywed y Wyddeleg yn cael ei siarad yn rhugl ac yn naturiol gan bobl wrth eu gwaith bob dydd.

A hithau wedi cyrraedd ei deg-ar-hugain erbyn diwedd y chwedegau, roedd hi'n dechrau ymddangos fel petai Glenda Jackson yn mynd i orfod bodloni efo'r golchi llestri.

Erbyn hyn, mae clywed Penderecki a Stachowski yn sôn am 'orfod talu'r ffordd' yn anghyfforddus o agos i brofiad Prydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Ma' meddwl am orfod gwrthod bwydydd 'afiach' yn ddigon i wneud i my gladdu ym mocs bisgedi Mam.

Roeddem wedi rhoi pwyse'n syth ar y time eraill i orfod sgono cymaint â ni.

Y diwedd fu i Waldo orfod ymadael heb ei lamp!

Bu hyn yn foddion iddo orfod dioddef oddi wrth gryd-y- cymylau weddill ei oes.

trwy anfon ergyd o gerrynt ar yr adeg cywir, gellid argraffu unrhyw lythyren ddewisiedig heb orfod atal symudiad cyson yr olwyn.

Ond yr ydw i yn cofio ildio fy sedd ar fws rhag i ferch orfod sefyll ac hyd yn oed ddal drws yn agored i fenyw gael mynd drwyddo om blaen.

Dechreuodd y chwareli gau fesl un yn y Gogledd wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill.

Deuent iddi ar fflach, meddai, heb orfod chwilio'n fwriadol amdanynt.

Ar wahan i orfod ad-dalu'r swm ei hun, mae'n rhaid talu'r llogau, wrth gwrs, ac mae'r rhain yn amrywio'n ddirfawr o le i le.

Mae Gareth Roberts yn llywio'r cwis yn ddiogel ac mae'r cwestiynau, yn ôl arfer cwisiau Cymraeg, yn gymharol hawdd fel nad oes peryg i'r un tim o gystadleuwyr orfod gadael heb wobr o ryw fath.

Mi gafodd hi'r ail un heb orfod hyd yn oed roi llythyr i Rick.

Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.

'Ar hyn o bryd bydd y gwasanaeth yn dal i orfod cael ei gynnal o'n canolfannau galw pwrpasol sydd i gyd ysywaeth yn Lloegr.

Mae'r awdl hefyd yn creu darlun trist o'r dirwasgiad a ddaeth i ardal y chwareli llechi wedi i'r economi cenedlaethol wegian, a chau'r chwareli fesul un wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill.

Dyma ni 'ta þ yr eli ar y dolur o orfod cyfaddef nad ydi chwerthin yn fêl i gyd er y gall, ar adegau, fod yn ffisig da.

Ni ddylai Cymry Cymraeg orfod gofyn am ffurflen Gymraeg yn y lle cyntaf.

“Nôl yn y saithdegau bum yn crwydro'r byd - Fiji, Awstralia, Borneo, Sarawak a Florida ac yn Sarawak bu bron i mi orfod priodi merch o lwyth y Dyaks.

Pam yr oedd yn rhaid i'r hen euogrwydd hwnnw ddod trosti eto'n byliau'r dyddiau hyn wrth feddwl mor wahanol yr edrychai'r lle heddiw i'r tyddyn hir, unllawr, a gofiai'n groten - y "tyddyn Cymreig?" Doedd dim rheswm yn y byd iddi hi orfod ysgwyddo'r plwc cydwybod yn gyfangwbl ei hun.

Y drwg, fodd bynnag, oedd fod y jobsus yn cynyddu mewn nifar, a'r diwrnod glawog yn mynd i orfod bod yn debycach i ddilyw i fedru eu cyflawni i gyd!

O orfod hanes dathlu'r Nadolig a geir gan bob cymdeithas bron y tro yma.

Ond yn wahanol i hynny yng ngolwg pawb roedd wedi hoelio'i gymeriad ar un o helion uchaf boneddigeiddrwydd y fro, heb orfod adio dim at ei daldra'i hun.

Deddf yn dod i rym yn caniat÷u i dystion roi tystiolaeth yn Gymraeg heb orfod talu costau cyfieithu.

Mae'r cyfleusterau gan yr amaethwr erbyn hyn i gasglu ei borthiant o silwair, yn rhydd neu'n fyrnau mawr, heb brin orfod dod oddi ar glustog gyfforddus ei dractor.

Cofiaf adegau o orfod rhedeg, gan gario'n pac a'n dryll, am bum milltir a hynny mewn deugain munud, ac yn ddiweddarach gwelais (os cofiaf yn iawn) orfod rhedeg deng milltir mewn awr a deugain munud.

Er i drefnwyr yr wyl orfod newid ychydig ar drefn y diwrnod wrth i grwpiau dynnu nôl, ni amharodd hynny o gwbl ar uchafbwynt Gwyl Pendrawr Byd.

Cefais innau fy ngollwng allan heb orfod ateb rhagor o gwestiynau.

O orfod cydnabod hynny, mae'n frawychus sylwi ar ein parodrwydd i anwybyddu'r dylanwad pwysicaf ar ein bywydau.

Y canlyniad fu i mi orfod cymryd tair cawod yn yr awr a hanner cynta o fod yno.

Diolch i'r drefn, hwn oedd y tro olaf i bawb ohonom orfod ein diogelu ein hunain rhag bygythiad cemegol Saddam.

Ympryd y swffragetiaid yn dod â'r arfer o fwydo drwy orfod i ben.

Pan ofynnodd Powell beth achosodd i'r awyren orfod glanio, daeth yr ateb sotto voce gan Gareth, "Sgido yn yr awyr." a'r prifathro'n methu a deall pam fod gweddill y dosbarth yn eu dyblau.

Efallai y gallaf ei berswadio i adael i chi gael golwg ar y tystysgrifau yma heb orfod prynu copi%au, os ydyn nhw ganddo fo.'

Mae'r mathau o dasgau a osodir i brofi ymhellach ddealltwriaeth disgyblion o gysyniad neu faes, neu gymhwyso'r hyn a ddysgwyd i sefyllfa arall debyg, o orfod yn golygu defnyddio iaith.

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.

Tros bechadur buost farw, Tros bechadur ar y pren, Y dioddefaist hoelion llymion, Nes it orfod crymu'th ben; Dwed i mi ai fi oedd hwnnw Gofiodd cariad rhad mor fawr?

Nid gwraig ostyngedig arbennig yw Rhiannon ac felly byddai'n boenus iawn iddo orfod gweithredu fel cludwr.

Na gwastraff ar amsar gwerthfawr, yn ymylu ar bechod oedd chwaraeon i'r hen bobol." A dyna ni'n dau yn ymroi i gyd-fwynhau orig o atgofion maboed cyn i Gruff orfod troi am adref.

Gan imi orfod disgwyl am beth amser, gwelais yn dda i elwa ar lyfrgell yr eglwys.

Gyrfa addysgol ddigon trafferthus a hynod o debyg a gafodd Euros hefyd gan iddo orfod newid ysgol yn aml a cholli ysgol yn ysbeidiol, weithiau am gyfnodau hir.

Mi fedrwch adeiladu tŷ da lle bynnag y mynnoch chi a chael bywyd cysurus heb orfod gweithio os mai dyna'ch dewis.