Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orfoledd

orfoledd

Mae'r emynau'n cwmpasu holl gyfoeth y bywyd Cristionogol yn ei bryder a'i orfoledd, yn ei ofnau a'i sicrwydd, ei anawsterau a'i lwyddiannau, yr union bwnc y canodd mor dreiddgar amdano yn Theomemphus.

A thestun ei orfoledd yw fod Iesu Grist wedi cymryd y bai am ein pechodau a marw'r farwolaeth yr oedd ef, y pechadur, yn ei haeddu.

Ond, mae'n bwysig iddo gael y dos cywir o cortison; os rhoddir gormod, mae'r claf yn debyg o fynd i gyflwr o orfoledd lle y mae'n oroptimistaidd, yn orhyderus, yn rhwyfus ac yn orsiaradus.

Er bod y math yma o orfoledd wedi digwydd lawer tro yn ystod diwygiadau'r gorffennol, yr oedd bellach yn beth dieithr iawn ac yn gryn sioc i fwyafrif yr addolwyr.

Pwy, wedyn, oedd yr ymgeisydd am uchel swydd yng ngwleidyddiaeth Prydain a newidiodd yn sydyn o gael pwl o iselder ysbryd i gyflwr o orfoledd annormal ac ynni annaturiol?