Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ormod

ormod

Roedd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru - oedd yn odidog, gyda llaw - yn ormod iddo ar adegau.

Ni byddai'n ormod dweud fod hon yn gymdeithas glerigol iawn!

Cyn hir roeddynt wedi cyrraedd tir agored heb ormod o goed yn ymyl y dw^r - lle delfrydol i bysgota.

Dywedir bod Edward Vaughan yn ormod o ddyn i basio barn ar gaeau ei gymdogion llai llewyrchus.

Ydi e'n ormod i feddwl fod y cyfansoddwr yn meddwl am undonedd bywyd, ond y gellir dod â lliw i fywyd er mai'r un thema sydd iddo fel petai?

Bu'r daith yn ormod iddi.

Y mae'n ormod o risg, fedra i ddim ei wynebu.

Ystrydeb erbyn hyn fyddai mynd i ormod o fanylder am ei gyrfa gynnar yn Boots a'i chyfnodau meithion yn ddi-waith yn ystod y chwedegau - degawd a dreuliodd fel actores ddi-nod a gwraig tþ.

O'r cychwyn cyntaf, mae'r bardd yn gwneud sbort am ben y rhai hynny sy'n cymryd y grefft ormod o ddifrif, a'r parchusion hynny sy'n uchel eu hael a'u hagwedd.

Mi yfodd ormod o ddŵr pan aeth hi allan am funud ddoe, ac mi ddaeth i mewn a'i blewyn hi yn syth gin gryndod.

Un bore Gwener fe welwyd Jim yn crymu o dan bwysau cant o lo ar ei ffordd i gwt glo Ty'r Ysgol yn ystod arddangosiad celfydd i ni'r plant gan y prifathro o grefft taflu lasso.Bu'r demtasiwn yn ormod i'r gwr o Batagonia.

Ond yr oedd wedi bod yn weinidog prysur mewn eglwysi mawr am ormod o flynyddoedd i wybod faint oedd hi o'r gloch reit ar ffrynt y frwydr i'm tyb i.

Ni ofynnodd iddi erioed gynnau tân na gwneud neges, roedd yn ormod o þr bonheddig i hynny.

"Mae gen i ormod o feddwl o'r hen Steddfod i hynny," meddai.

Ni fyddai dim yn ormod i'w wneud gan Charles pan fyddwn mewn trafferthion yng nghyffiniau Caergybi.

Tybiai fod cynnwrf ydiwrnod wedi bod yn ormod iddi.

Yr oedd tri diwrnod mewn cell hanner-tywyll ar fara-a-dþr yn ormod o gosb am edrych ar wyneb merch.

Mae'n ormod o demtasiwn i mi beidio a chyfeirio at y gystadleuaeth gyntaf am lyfr cyflawn.

Y trwbwl oedd i fod e'n caru'i wraig yn ormod.

Treulir braidd ormod o amser ar ddechrau'r bennod hon i gyfleu ymateb diddeall y plant i'r degwm, a hynny i raddau helaeth er mwyn creu digrifwch, sydd yn tanseilio difrifwch y digwyddiadau a ddisgrifir wedyn.

Credaf y buasai gan yr Athro fwy o achos i lawenhau, yn hyn o beth pe buasai fyw heddiw, ond yr wyf yr un mor sicr y gwelai ormod o olion o'r drwg hwn ym mywyd y genedl i beri iddo roi ei saethau i gyd yn ôl yn eu cawell.

Fel ail reswm cyffredinol dywedir bod y cyfnod llewyrchus yma'n deillio o'r datblygiadau yn ein gwybodaeth am weithgarwch yr economi: fod syniadau Keynes, a'r datblygiadau mewn polisi%au a adeiladwyd ar y seiliau damcaniaethol hynny wedi galluogi'r Llywodraeth i gadw'r economi ar lwybr cul, heb ormod o chwyddiant na thyfiant.

Tybed a oedd ar ormod o frys?

Gruffudd yn derbyn ffafrau ei dad...cael byd da a diogi a digon o anwes i'w gadw'n ddiddig a sicrhau na fydd arno ormod o frys i ddianc at yr Ymennydd Mawr a'i debyg!" Temtiwyd Elystan i fwrw'r Cripil i'r llawr am yr eildro y diwrnod hwnnw.

Yr oedd y drewdod yn ormod i Hector.

Cyn bo hir fe ddaeth estroniaid fel William, Richmael Crompton i dreio rhoi ei gardia i Nedw a'i yrru o i ebargofiant, ond yr oedd hwnnw yn ormod o rwdlyn ac yn rhy hoff o wneud pethau gwirion i ddi-sodli Nedw byth.

Yn y teithiau hyn oedd dada yn aros noson ar y ffordd nôl yn lle Dei Hughes neill Bob Owen, gan fod y daith yn ormod i'w gwneud mewn dydd drwy'r mwd.

Dyna pryd mae pobl yn draddodiadol yn gwario lot o arian!' Un siom i Ankst yw cyn lleied o gasetiau sy'n cael eu gwerthu mewn dawnsfeydd; mae'n amlwg fod gwario pedair neu bum punt ar gase/ t ar ben tocyn ac arian cwrw yn ormod gan rai.

Yr oedd y ffug-ddiddordeb, y pleser cwbl ffuantus mewn ailgyfarfod yn ormod i mi.

Ond 'roedd y demtasiwn yn ormod iddo ac, yn 1994, cafodd ei hun yn ôl yn y carchar.

Parhaodd y thema ddrama yn Unwaith Yn Ormod, drama gyntaf y bardd, beirniad llenyddol ac awdur sgrîn Alan Llwyd ar gyfer y radio ai stori dditectif gyntaf - dau brofiad newydd iddo.

Ond mawredd Pantycelyn, meddai, yw iddo allu ffrwyno'i ramantiaeth ac felly osgoi mynd i ormod rhysedd trwy alltudio'r rheswm o'i waith yn gyfan gwbl: 'Dechrau'n fardd rhamantus a wnaeth Pantycelyn, datblygu ei ramantiaeth a'i mynegi'n llawn, yna ei meistroli a thyfu i weledigaeth fwy.

Anna-Marie Robinson yn holi tybed oes yna ormod o anifeiliaid fferm ar gyfer plant bach...

Gwrthododd y beirniaid goroni pryddest Cynan am fod ynddi ormod o sôn am y Rhyfel, a choronwyd yn hytrach bryddest ddof Robert Beynon.

Ochneidiodd Gwyn, yr oedd y cwbl yn ormod iddo.

Mae'n nhw'n ddiogel yng nghanol y tabl ac fe ellid tybio na fyddan nhw'n cymryd y gêm ormod o ddifri.

Y rheswm pennaf efallai yw'r trefniadau amherffaith yn y ffermdai hynaf sy'n gadael y ddau ryw ormod gyda'i gilydd a hynny hyd yn oed yn y nos'.

Dyna hogyn da." Roedd hyn yn ormod i Jeremeia Hughes.

Nid oedd wedi bod ar ôl hynny am nad oedd ei phartner canfasio ar gael, ond nid oedd am adael i neb wybod y rheswm rhag ofn iddi ymddangos un ai'n rhy wan a dibynnol neu'n waeth fyth yn ormod o wraig fawr i fynd efo neb arall.

Clywais rai pobl yn cwyno am fod gan Kate Roberts ormod o ddisgrifio dillad a gormod o ddisgrifio prydau bywyd.

Y boen yn ormod iddo fo mae'n debyg." Safodd y pump ar y bont i wylio'r llanciau'n cael eu cario i'r ambiwlans er mwyn mynd i'r ysbyty am driniaeth.

Dwi i ddim yn edrych ymlaen ormod at y peth - maen debyg y bydd en brofiad anodd, pethe fel rhedeg wyth milltir, cario boncyffion, rhedeg drwy fwd...

Ar ben hynny, mae ambell i aelod yn grwgnach fod y disgwyliadau ymarfer yn ormod i'w ofyn gan rai sydd ond yn gantorion amatur.