Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orwedd

orwedd

Wrth orwedd yn ei ymyl ar y gwely, a'r llenni ar agor i adael golau dydd i mewn, teimlai Hannah'n eiddigeddus o'i iechyd.

Ond daeth rhywbeth yn ei llonyddwch wrth orwedd yno â holl amheuon Nina i'r wyneb.

Mi gefais ddigon o amser i feddwl dros bethe wrth orwedd fan hyn, ac rwy'n ofni y bydd raid i ni adael yr ynys." "Gadael yr ynys?

Aeth yntau i gornel gysgodol, ac wedi cael man cyfforddus i orwedd ar hen domen o deiars, fe syrthiodd i gysgu.

Dim iws ei roi yn y gwair fel hyn, gwna ryw fath o le iddo orwedd wrth y tân.

Medrai eu harogli wrth iddo orwedd yn ôl ar y glaswellt a chau ei lygaid yn dynn.

Cusenais Meinir wedi iddi orwedd ar wastad ei chefn yn y gwely, a rhybuddiodd fi unwaith eto.

Peth anlwcus hefyd yw gadael i'r 'chips' orwedd blith drafflith ar fwrdd.

Byddai'n syniad iddo fynd i orwedd i'w lofft i stydio tipyn ar y cynganeddion erbyn wythnos nesaf.

Po fwya' y syllwn i ar y ddaear, y mwyaf o olion y trueiniaid oedd yno darnau o'r sgarff draddodiadol, sandalau, crib, yn dal i orwedd lle syrthion nhw'r nosweithiau hunllefus hynny.

Ceisiais ei berswadio i dynnu ei esgidiau ac i orwedd ar ei hyd ar y gwely.

Cafodd ei demtio i orwedd yn ôl yn llonydd, a pheidio â gwneud dim ond gadael i'w gorff suddo i waelod y môr.

Haws oedd goddef y newyn ar ei orwedd nag ar ei sefyll.

Ond dihangfa oedd hyn oll i Ynot; allan y nos neu beidio, adre'n hwyr neu beidio, rhaid oedd dychwelyd bob nos i gysgu hefo Arabrab, neu o leiaf i orwedd yn effro tra chwythai a chwyrnai ei hanadl wnionllyd drosto.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

"W^n i ddim am faint o amser ddaru mi orwedd," meddai, "ond wedi i mi ddod ataf fy hun, teimlais geg Rex yn gafael yn fy ysgwydd." "Ceisio eich llusgo adref yr oedd o," atebodd Louis.

Ni rydd hyn gyfle i'r glaswellt orwedd mewn un cyfeiriad arbennig ac felly lleiheir y posibilrwydd i'r gweiriach cras ddatblygu.