Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

osodir

osodir

Darganfuwyd hefyd fod ystyriaethau gwleidyddol a diwylliannol, megis hen ffiniau gwleidyddol, yn cael eu hadlewyrchu yn llwybr yr isoglosau (y llinellau a osodir ar fap i nodi ffiniau ymestyniad daearyddol y ffurfiau dan sylw), a bod rhaniadau tafodieithol yn gallu adlewyrchu rhaniadau pell yn ôl.

Mae'r mathau o dasgau a osodir i brofi ymhellach ddealltwriaeth disgyblion o gysyniad neu faes, neu gymhwyso'r hyn a ddysgwyd i sefyllfa arall debyg, o orfod yn golygu defnyddio iaith.

* sicrhau trwy bolisi ysgol gyfan fod datblygiad yn y mathau o dasgau a osodir sydd yn arwain pob math o blentyn, a hynny'n gynnar yn eu gyrfa uwchradd, i arfer y pum math o ddealltwriaeth a nodir.

Sylwer ar y pwyslais a osodir yma ar yr ymadrodd 'yr unig elfen'.

Mae tuedd, ysywaeth, i'r holl bynciau orbwysleisio'r dealltwriaethau llythrennol ac ad-drefniadol yn y math o gwestiynau darllen a deall a osodir ym mhob maes cwricwlaidd a chyda phlant cyffredin ac is o ran gallu yn arbennig, ar ddechrau gyrfa ysgol.