Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pabyddion

pabyddion

Pabyddion oedd traean ohonynt a'r gweddill yn Brotestaniaid.

Byddai hyn, meddant, yn sicrhau y rhyddid cyflawnaf posibl i Brotestaniaid yn y broydd lle maent yn y mwyafrif a'r un modd byddai'r Pabyddion yn mwynhau'r un rhyddid yn eu hardaloedd hwy.

Yn un peth yr oedd Pabyddion y Cyfandir, rhai Sbaen yn neilltuol, yn chwythu bygythion.

Dadleuai ymhellach mai bwriad llunwyr yr Erthyglau oedd bodloni Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, a'u geirio yn y fath fodd fel ag i gadw cynifer o Gatholigion ag oedd yn bosibl oddi mewn i'r eglwys ddiwygiedig.

Wele'r dadleuon yn sownd yn y tywod ers i Thomas Charles ysgrifennu'r Welsh Methodists Vindicated - yr Eglwys Sefydledig yn amddiffyn ei safle drwy gyhuddo'r radicaliaid o ffurfio clymblaid annuwiol gyda'r Pabyddion er mwyn disodli'r wladwriaeth ei hun.

Yr oedd y radicaliaid wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Eglwys Lloegr, meddai, "ac wedi cyduno gydag O'Connell, a'r Pabyddion eraill ag sydd yn awr yn y Senedd, i'w diwreiddio a'i thynnu i lawr.

Pabyddion dirgel oeddynt yn ceisio adfer yr hen grefydd, meddai rhai.

Un datganiad ysgytwol a wnaed gan filwr ifanc o Lerpwl oedd yr hoffai ochri gyda'r Cwrdiaid i roi `cweir' i fyddin Irac yn yr un modd ag yr hoffai ochri gyda'r `Protestaniaid' yng Ngogledd Iwerddon i roi cweir i'r `Pabyddion'.