Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pabyddol

pabyddol

Pe bai'r gosodiadau'n gywir, anodd fyddai i neb ddywedyd i'ch erbyn, ond camsyniad sylfaenol eich dadl ydyw anwybyddu'r gwahaniaeth hanfodol rhwng traddodiad byw a thraddodiad marw, a marw hollol ydyw'r traddodiad Pabyddol yng Nghymru.

Oherwydd bod nifer o bobl ifanc asgell chwith wedi ymuno â Phlaid Cymru wedi Penyberth penderfynodd Saunders Lewis ymddiswyddo o'r llywyddiaeth am na fyddai Cymru yn derbyn arweinydd Pabyddol.

Gan chwarae ar y gair Maynooth, sef coleg Gwyddelig ar gyfer hyfforddi offeiriaid Pabyddol, galwodd rhywun Littlemore yn Newmanooth.

Ac er i Newman wadu wrth Esgob Rhydychen mai mynachlog ydoedd, wrth i'r amser gerdded a dynion ifainc yn dod yno i aros, ymdebygai bywyd Littlemore yn fwyfwy i fywyd sefydliad Pabyddol, gyda phwyslais neilltuol ar ddisgyblaeth a llymder personol, yn enwedig yn nhymor y Grawys.

Beth petai cynghrair o wledydd Pabyddol yn gwneud cyrch ar y deyrnas?