Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

paham

paham

O ran cythreuldeb (cewch weld mewn eiliad paham y dywedaf 'o ran cythreuldeb') âi Jane, fy ngwraig, i ateb y ffôn; yn ddi-ffael dywedai Dr Kate, 'Dydw i ddim yn eich clywed chi.

Mae gwir angen esbonio paham y mae parch i'r llyfr hanes, sydd yn un o glasuron rhyddiaith y Gymraeg, ac ar yr un pryd paham y mae rhyw ddelwedd anhyfryd wedi dod lawr i ni o Theophilus Evans y dyn.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Tudweiliog yn gofyn paham y rhoi'r amod person lleol ar y dyfarniadau mewn rhai achosion ac nid mewn eraill sydd yn ymwneud â safleoedd o fewn ychydig lathenni i'w gilydd.

Dyna paham y symudant eu gwyl fawr genedlaethol o le i le fel syrcas yn y gobaith y bydd Arthur yn clywed.

Dyma paham y mae sefyllfa iaith a threftadaeth ein cenedl, er ei pherycled, ac er bod safle daearyddol Cymru mor anfanteisiol, gymaint yn gryfach na sefyllfa Iwerddon, yr Alban a Llydaw.

Y mae'n wir nad oedd y teulu'n absennol o'r gymdeithas, ond yr oedd yn israel ai ffyniant bywyd ar barodrwydd dynion i uno â'i gilydd; dyna paham y rhoddid lle mor bwysig i deuluoedd a pherthynas gwaed.

Dyna paham yr ydym wedi gosod yn deitl i'r papur hwn Her i Ysgolion Gwledig. Dyna paham y gresynwn wrth glywed addysgwyr yn cwyno am 'broblemau' ysgolion pentrefol.

Dyna'r eglurhad hefyd paham nad ydynt i gyd yn bobl sy'n cael honourable mention pan ganwn 'Hen Wlad fy Nhadau', o achos gwraig ddemocrataidd oedd fy mam.

Efallai bod hyn yn esbonio paham yr oedd cynifer o weinidogion yr achosion ymneilltuol yn nyffryn Aman a'r cylch yn ystod y cyfnod cyn-ddiwydiannol yn wŷr di-goleg.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Cwestiwn naturiol i'w ofyn ydi paham eu bod yn mudo pob blwyddyn o Affrica yn y Gwanwyn.

Roedd hi'n dechrau nosi ac efallai mai dyma'r rheswm paham fod y morwyr yn awyddus i ddychwelyd i'r llong.

Dyna paham nad yw'n ddiogel derbyn barn pobl am ddoe, yn enwedig eu doe eu hunain, heb gael cadarnhad annibynnol.

Mae'n anodd meddwl am neb a fuasai'n awyddus i hawlio'r cyfansoddiadau hyn fel ei waith personol, ond mewn oes pan oedd llên-ladrad yn rhemp, dysgodd y Meudwy drwy brofiad chwerw, mae'n rhaid, y dylai ddiogelu ei gynhyrchion, a dyma paham y ceir 'Entered at Stationer's Hall', 'All Rights Reserved' ac 'Ni ellir argraffu y cyfansoddiadau hyn heb ganiatâd yr awdur' ar bob un o'i lyfrau.

Hwyrach mai dyna paham fod mudo yn un o ryfeddodau mwyaf byd natur.

Os yw'r amrywiadau'n ddigon o faint i alw am esboniad, rhaid edrych am y rhesymau paham y digwyddasant.

Paham sôn cymaint am datws?

Ond y mae yr un mor galed i lawer o drigolion Moscow ddeall paham yr ydym ni mor hoff o Mr Gorbachev.

Dyna paham y mae'n arferiad i ddangos yn y cyfrifon y ffigurau cyfatebol am y flwyddyn flaenorol, ac yn wir bydd llawer o gwmni%au cyhoeddus yn ychwanegu tablau o ffigurau allweddol dros gyfnod o, efallai, ddeng mlynedd.

Daeth Mrs Paton Jones i'w feddwl, er na fedrai esbonio paham, nac, ychwaith, paham y gwenodd wrth feddwl amdani.

Dyna paham y mae'r Gymraeg yn y sefyllfa eironig o fod ar ei hennill mewn un cyfeiriad, ac ar ei cholled mewn cyfeiriad erall.

Paham y dychmygwn hyn?

Mae geiriau Richard Davies yma yn dangos yn eglur iawn paham y gellir galw'r corff hwn o hanes yn 'fyth': y mae'n dylanwadu ar yr ysbryd a'r dychymyg, a'i ddiben, neu ei rym arbennig, yw cynnal balchder a hunan-barch y Cymry.

Dyna paham mai creadigaeth pechod a man geni heresi ydi pob tre.' Ni allai Ieuan Ddu lai na dyfalu be oedd gan hwn i'w wneud â llosgi eglwys Dolbenmaen, ond roedd ei lygaid yn goch gan flinder a'i goesau'n gwanio oddi tano.

Roedd ef wedi goroesi `Ogof Angau', ac wedi dod ohoni gydag esboniad paham nad oedd unrhyw fforiwr arall wedi dianc ohoni yn fyw!

Dyna paham y byddai'r rhan fwyaf ohonynt yn tynnu'r olwynion yn yr awyr agored.

...paham mae cymaint o ysgrifenwyr galluog yn Nghymru, yn ysgrifio traethodau campus; ac hefyd yn llanw y cyhoeddiadau misol â gweithiau talentog (heb gael na Choleg, nac Athrofa, nac hyd yn oed ddiwrnod o Ysgol) mwy nâ'n cymydogion yn Lloegr, a'r Iwerddon, a gwledydd eraill?

Dyna esbonio paham na chlywodd pan waeddodd arno o gwr y wîg ychydig ynghynt .

Efallai mai dyna paham y byddai golwg mor unig a gwargam arno draw ar y tir.

Yn yr un modd ceir rhesymau ymarferol hollol paham na ddylid rhoi esgid ar fwrdd, neu agor ambare/ l mewn ty.

Yn wir, daliai ef fod Arthur o bosibl yn hen arwr cenhedlig i'r pobloedd Brythonig cyn iddynt fudo i Brydain, ac mai dyna paham y ceir ef wedi ei leoli ym mhob man lle y sefydlwyd cymdeithasau Brythonig yn ddiweddarach, - yn yr hen Ogledd, yng Nghymru, yng Nghernyw ac yn Llydaw.

Y mae nifer o resymau paham y gall hon fod yn dasg anodd.

Roedd rheswm da paham yr oedd comisiynau brenhinol a chomisiynau ymchwil yn ymddangos yn gymaint o ddiwydiant â'r diwydiannau a oedd yn wrthrych eu hymchwiliadau.

Efallai fod rhai ohonoch yn methu deall paham na phlannaf yn gynt dan orchuddion.

Wedi i Dulles wella ar ôl ei operasiwn, syfrdanodd Selwyn Lloyd trwy ofyn iddo paham yr oedd Prydain a Ffrainc wedi tynnu'n ôl o Suez.

Paham wyt ti'n drist?'

Dyna paham y gallai Jean Jaure/ s, y sosialydd a'r heddychwr mawr o Ffrancwr, ddweud, "Os dinistriwch y genedl fe giliwch yn ôl i farbareiddiwch".

Ond y rheswm paham fy mod i yn lleiafrif o fewn lleiafrif yw am ei bod yn edifar gennyf bod hyn oll wedi digwydd.

Straeon yw'r rhain sydd yn cael eu dweud, eu hail-ddweud, a'u credu yn ein cymdeithasau modern ledled y byd, ond mae'n ddiddorol nodi mai cefndir Americanaidd sydd i nifer ohonynt - cawn drafod paham yn nes ymlaen.

A dyna paham y cadwasid hi.

Y prif gwestiwn y mae'n rhaid i ni ei wynebu o fewn i'r Testament Newydd ynglŷn â'r iawn yw paham y bu Crist farw.

Dyna'r rheswm paham y buwyd yn chwilio am ddulliau newydd o atgynhyrchu llyfrau a phaham y cafodd yr argraffwasg y fath groeso gorawenus wedi i ddynion ei darganfod a'i datblygu.

Dyma Richard Prise eto, yn egluro paham yr aeth ati i gyhoeddi'r Historia Brytannicae Defensio o waith ei dad, (a De Mona Llwyd ynghyd ag ef): 'Yr oedd llawer ffactor yn wir a'm darbwyllai na ddylwn esgeuluso cyhoeddi'r llyfr.

Hwyrach mai dyna paham y rhoddais y nofel i lawr yng nghanol y llyfrau diwinyddol.

Dyna paham bod lleiafrifoedd - ac fe olyga hynny wledydd bychain hefyd y dyddiau hyn - ar hyd y canrifoedd wedi bod yn ddrain yn ystlysau meistri'r byd.

Erbyn hyn fe welwyd ffrwyth y brotest arwyddion ffyrdd wedi i'r Llywodraeth gytuno i osod arwyddion dwyieithog, Yn y gerdd hon nid gofyn 'paham yr anniddigrwydd' y mae'r bardd, ond edmygu gwydnwch y protestwyr yn hytrach.

Os dywedaf ar y dechrau fel hyn nad oes gennyf ddim gwybodaeth dechnegol am gerddoriaeth, fe ofynnir ar unwaith paham yr wyf yn mentro sgrifennu amdani ynteu?

Paham na chafodd effaith fwy dramatig ar natur a themau ein barddoniaeth?

Prin ei fod yn barod i gydnabod iddo'i hun paham yr oedd mor bryderus ond nid oedd Rowland heb sylwi fod Hywel Vaughan ar goll hefyd.

Dyna paham y pedolid y ceffylau yn yr awyr agored tu allan i ddrws yr efail.

Dyna'r rheswm, mae'n debyg, paham na fu awdurdodau'r Eglwys yn yr Almaen a'r Eidal fel petaent yn dymuno gwahardd neu rwystro'r cyfieithiadau hyn rhag cael eu dosbarthu ymysg y boblogaeth yn y ddwy wlad.

Dyna paham y mae brwydrau Arthur, a restrir yn yr Historia Brittonum, i bob golwg mor bell oddi wrth ei gilydd, yng Nghoed Celyddon, yng Nghaerllion, ym Maddon yn ne Lloegr, neu yn Llynnwys (sef Lindsey) yn y dwyrain.

Paham na ddaeth Miss Derwent i'r Cilgwyn, ni wn.

Ond os oedd yr ymwybod ar gael, paham na ddaeth yn fwy i'r amlwg?

Gan fod holl gwestiwn paham y cafwyd y cyfryw ddadeni ag a welir ym marddoniaeth y Gofynfeirdd heb sôn am paham y cafwyd eu 'rhieingerddi' ynghlwm wrth y cwestiwn hwn, mi fydd efallai'n fuddiol trafod cefndir y rhieingerddi ynghyd â chefndir cyffredinol canu'r Gogynfeirdd yn hytrach na cheisio ateb pendant penodol na all beidio â gorsymleiddio'r sefyllfa.