Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pallu

pallu

Ond erbyn y ganrif ddilynol yr oedd yr hen ddelfrydiaeth yn pallu a'r ymosodiadau yn enwedig o du'r offeiriaid secwlar - yn amlhau.

Gwrthod caniatâd i'r cynghorwr gobeithiol a wnaeth y Pwyllgor Gwaith; yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau'n pallu credu na ddeuai'r cynghorau i wybod mai oddi wrth y Blaid y daethai'r cynllun, ac felly tybient fod cystal i'r Blaid fynnu clod cyhoeddus am gyflwyno cynllun pwrpasol, er na ddeuai dim budd o'r cyflwyno.

Unwaith y mae'r argyhoeddiad hwn yn pallu, mae'r pregethwr yn colli ei ddifrifoldeb.

Fel pob amser yn Affrica, roedd y glaw wedi pallu yn sydyn pan oeddem yn ciniawa, roedd y sêr yn disgleirio - ac o'n cwmpas filltiroedd o ddim byd.

A oes rhywrai'n cofio amdano ar ddechrau'i yrfa fel ysgolfeistr yn pallu newid sieciau'i gyflog am nad oedd yn teimlo'i fod wedi'i hennill yn llawn?

Er iddo eu rhybuddio, pallu gwrando a wnaethant, a gwelodd yntau y byddai eisiau gwyrth i'w darbwyllo i droi at Grist oddi wrth eu hen arferion.

Oherwydd bod disgyblaeth a hyfforddiant mewn llu mawr o eglwysi wedi pallu, y mae anwybodaeth yr aelodau am gynnwys y Beibl a hanfodion y Ffydd yn achos pryder mawr.