Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

palmant

palmant

Neidiodd y cerddwyr o'r ffordd i ben y palmant wrth i'r gyrrwr gwelw frwydro i geisio cadw'r lori ar y ffordd.

Tra'i fod o'n gwisgo amdano'n gynnes, gwthuiodd Mam y bygi dros riniog y drws a'i ollwng i lawr i'r palmant.

'Dere ma ac fe gei di ysgub ar dy din?' galwodd Vera gan blygu i godi'r bag o'r palmant.

Roedd naws digon oer iddi wrth iddo sefyll ar y palmant, ond fel arfer roedd ceir yr heddlu fel ffwrneisi, a go brin y byddai car Jenkins yn eithriad.

Y tu ol ac o gwmpas y sbwriel, a'r bobl sy'n cysgu ar y palmant, yn y stesion, ar y gerddi ar ochr y ffordd, mae rhai adeiladau hardd yn Delhi.

Yna, mewn eiliadau, fe fydden ni'n gallu gweld golau egwan ei lantern a chlywed sŵn siffrwd ei gwisg laes ar y palmant ac oglau fel arogldarth Capel Pab yn gymysg â pheli gwyfyn fy nain.

Gall y rhain fod yn beryglus i gerddwyr ar y palmant.

Lledwyd y lôn ac, yn bwysicach fyth, gosodwyd palmant drwy'r pentref.

Aeth y lori i ben y palmant ac i mewn i ffenestr y siop.

Llwybr garw, creigiog yw am sbel ac effaith y rhew yn amlwg eto, wedi llyfnhau'r graig i ffurfio palmant rhewlifol.

"Cadwch yn glos ar y palmant," meddai Huw, "cofiwch eich bod wedi colli'r arfer o gerdded mewn tre, a thraffig, wedi bod ar yr ynys cyhyd."

Dawnsiodd Gemp ddawns bach y blodau ysgafndroed braf i fyny ac i lawr y palmant, yn troi fel ewig ac yn clecio'i fys a'i fawd.

Llong a hwnnw yn ei eistedd ar ochr y palmant yn ceisio cael ei wynt ato.