Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pant

pant

Niclas Pŵel, mynte fe, we'i enw - gallen feddwl bod Sara Dafis Pant-y- deri'n whar iddi famgu e.

Rydw i'n eu cofio nhw i gyd: Hugh Cae Haidd, Wil Pant, Shem Pandy, Wil Jones Happy Valley, Ifan Morgan, Ellis Nant, Wil Thomas Bryn Hyfryd, Rolant Gruffydd Felin Hen a William Ifans Glasgoed.

Wedi hynny symudwyd hi i Fryn Blodau, ger Ty'n Pant, wedi i'r lle hwnnw ddod yn gartref i John Roberts, Tyddyn, un o sylfaenwyr yr Ysgol Sul.

LLONGYFARCHIADAU i Hugh Williams, Pant yr Afallen ar ei lwyddiant ysgubol gyda'r Hwch Las a'r deg mochyn bach, heb anghofio wrth gwrs yr hwch ei hun a'r tad - er mai y cwbl a ymddangosodd am y creadur hwnnw oedd mai Duroc oedd ei 'fec' - neu ei fecwn hwyrach!

Yn y pegwn arall, yr oedd gan gapel bach Annibynwyr Pant-glas chwech o athrawon a dim un disgybl.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Arweiniodd Bob fi drwy ddrws siambr Pant Glas.

Mae'n debygol mai Robert Jones, Tan y Bwlch; Hugh Evans, Tŷ'n y Gilfach; William Hughes, Tŷ'n Pant a John Hughes, Y Felin; a weithredai fel blaenoriaid ar y pryd, ac fe etholwyd David Pritchard, Hafodymaidd, yn ychwanegol atynt yn yr un flwyddyn ag y codwyd y Capel.

yn datgan ei barn i'r cyw cog hwn oedd yn mynd i nythu yn ei hardal ac ymyrryd a'i pharadwys!yn groenlan, a hardd ei dalcen, a'r gwallt crychfelyn yn pluo pant ei wegil fel shafins coed yn cyrflio ar foncyff cam.

Dringodd ar ei beic, ac yn ôl â hi i'r Bala, heb weld Debora'n troi'r gornel o gyfeiriad Pant Llwynog.

Yntau'n falch cael dweud hanes Leusa'r Pant yn rhoi'r bêl fain drwy'i chlocsen yn ei hast, "a 'na hi, Ann, mi fydd yn gorfod cario'i throed drwy'r haf!" Gwenu'n dosturiol a wnaeth mam.

Ynys o graig a'i bilidowcars yn teyrnasu arni, y goleudy'n gannaidd, amlinell croes Dwynwen ar las y nen, gweddillion ei heglwys yn swatio yn y pant a bae bach perffaith oddi tanoch.

Serch hynny, unwaith bob can mlynedd, mae'r meini yn powlio allan o'u tyllau ac yn rowlio i lawr i'r pant i yfed o'r pwll yn yr afon.

Roedd o yn byw mewn pant gyda bryniau bob ochr iddo.

A phwy o dy oed a dy anian di sy ar ol beth bynnag i ti roi gwâdd iddyn nhw?" "Wel...mae Robin Pant...a Twm Post, mi drawais ar hwnnw y dydd o'r blaen." "Robin Pant a Twm Post, wir!

Yn ôl Syr Ifor Williams daw'r enw o 'cafn', sef pant o fath.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg dywedir mai tri yn unig a ddysgodd ddarllen, sef Edward Jones, Llechwedd Llyfn; Owen Roberts, Tŷ'n Pant; a Robert Roberts, Bryn Du.

Doedd Luned ddim yn fodlon dod i'r seremoni, ond roedd pawb yn deall hynny, ac fe gafwyd Sais oedd wedi symud i bentre Blaen-pant i wneud hynny, achos wedi'r cyfan, ma' rhaid ichi gal bobol go iawn i neud pethe fel hyn.

'Dydi teulu Pant lwynog ddim gyda'r mwya cyfeillgar.'

Brigstocke, YH, Blaen-pant, Ceredigion, na wyddai am yr un ysgol yn yr ardal lle'r oedd athro neu athrawes gymwys.

Ymhen dwy filltir a hanner mynd heibio i Dy'n-pant, cartref Evan Jones yr hynafiaethydd a roddodd gymaint o hanes yr ardaloedd hyn ar gof a chadw (Ceir casgliad ardderchog o'i lawysgrifau yn Amgueddfa Werin Cymru).

Adeiladwyd hwn ar dir a gafwyd gan Owen Roberts, Ty'n Pant, a phregethwyd ar ei agoriad gan y Parchedigion Thomas Charles a Ffowc Evans.

Nid oes ond ychydig gerrig i nodi'r fan lle gynt y safai'r hen fythynnod: Bryn Brith, Ty'n-y-cefn, Pen-y-foel, Glan-llyn, Tan y Garth, Rhydloyw, a Thy'n Pant.