Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

paragraff

paragraff

Dyheu'n ofer am ei atgyfodi fel yr oedd sydd yn y trydydd, ond ar ddechrau'r paragraff nesaf mae'r bardd fel petai'n derbyn fod y bedd wedi'i gau, ac wrth ystyried beth roedd Siôn yn ei olygu iddo mae'n ei fewnoli'n rhan ohono'i hun.

Yn y paragraff cyntaf y maer pwyslais ar gyflwr amddifad y tad, ac ymddengys ei alar yn ddiderfyn ('i boen mwy ...

Mae hyn yn gwbl ddilys yn seicolegol, oherwydd fe fydd rhiant yn tueddu i weld ei blentyn fel ymgorfforiad o'i febyd ei hun, ac wrth golli Siôn mae'r bardd yn ffarwelio â holl hwyl ac asbri ieuenctid, fel y gwelir yn y paragraff olaf.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Heibio i'r paragraff cyntaf, ac wele: 'Oferedd i'w printio llawer o lyfrau, Blinder i'w cynnwys llawer o feddyliau, Peryglus i'w dwedyd llawer o eiriau, Anghyssurus i'w croesawu llawer o ysbrydoedd, a ffolineb yw ceisio ateb holl resymmau dynion, Ond (o Ddyn) cais di adnabod dy galon dy hun, a mynd i mewn ir porth cyfyng.' Pa arfau a feddwch i ddringo creigiau'r dychymyg hwn?

Eisoes y mae'r gair 'troedle' wedi'i 'garnu' ganddo i ddisgrifio ein lleoliad yn y frwydr i barhau mewn bod, ac y mae paragraff olaf yr ysgrif yn rhapsodig: "Eto tra'r erys i ni droedle yn ein tir ni dderfydd gobaith.

Yn yr Historia Brittonum, a gasglwyd ynghyd o amrywiol ffynonellau yn y nawfed ganrif, y ceir yr ymgais hynaf i adrodd am orchestion Arthur mewn paragraff o ryddiaeth.

Mae'n beth chwithig, fod bynnag, bod yr ymadrodd yn dod yn union ar ôl paragraff sy'n trafod cariad rhwng mab a merch, cariad sy'n arwain at briodas.

Y gosodiad pwysicaf yn y paragraff, fe ddichon, yw'r cymal sy'n dweud fod Arthur wedi ymladd yn erbyn y Saeson gyda brenhinoedd y Brytaniaid, ond mai ef oedd 'arweinydd y brwydrau' y dux bellorum.

Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ffôn a chyfeiriadau defnyddiol ac fe fyddwn i'n bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi) wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.

Arwyddocaol iawn hefyd, o safbwynt gweithgaredd gwleidyddol ym Mhrydain, yw'r hyn a ychwanegodd yn y paragraff nesaf: ...

Mae'n amlwg fod y gyfres ysgubol o linellau sy'n dechrau â 'fy' yn y pedwerydd paragraff yn tynnu ar dechneg dyfalu, lle byddai bardd yn rhestru pethau a oedd yn geffelyb i'r gwrthrych.

Yr oedd adroddiad un paragraff ar gyfarfodydd pregethu, neu erthygl goffa fach am rywun yn yr ardal, neu bwt ar ryw bwnc diwinyddol yn gwbl dderbyniol.

Y testunau prawf a gynigir yw trydydd paragraff y bennod, yn enwedig yr ymadroddion 'Cariad at chwaer oedd yn Harri Tomos...

Mewn un man ceir y paragraff a ganlyn:

A chredwch chi ddim i be yr oeddan nhw eisiau imi newid y gair cownt yn yr ymadrodd colli cownt yn y paragraff nesaf.