Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parchu

parchu

Cydnebydd Mr George nad yw'n berson ofergoelus, ond y mae'n 'parchu hen draddodiadau'.

Ac egwyddor gyntaf ceidwadaeth yw ymwrthod â phob chwyldroad, cadw llinyn bywyd cymdeithas yn gyfan a didor, parchu yn fwy na dim arall mewn bywyd draddodiadau'r genedl.

Yn yr awdl mae un o'r delwau a geir yn Nhyddewi yn holi pererinion, ac yn gofyn a ydyw'r Cymry yn parchu eu hiaith o hyd ac yn gwerthfawrogi harddwch y wlad.

Ydy parchu traddodiad yn brwydro yn erbyn cyfoesedd?

Pwysleisiodd yn ei ddatganiad fod gan John Hollins ddwy flynedd arall o gytundeb fel rheolwr - mi wnaeth o arwyddo'r cytundeb yn gynharach yn y tymor - a bod cwmni Ninth Floor, perchnogion presennol y clwb yn bwriadu parchu'r cytundeb hwnnw.

Mae'r neges yn gyson - rhaid datblygu cyfundrefn sy'n parchu yr amgylchfyd - a chofleidir, gydag argyhoeddiad amrywiol, yr egwyddor o ddatblygiad cynaladwy.

Gallai cynigion i addasu adeiladau presennol fod yn fwy derbyniol pe baent yn parchu dulliau a defnyddiau adeiladu lleol.

Yr oedd y rhai mwyaf dof ohonynt yn ddigon bodlon ar y drefn esgobol ac at ei gilydd yn parchu'r ddisgyblaeth eglwysig ond yn gobeithio y gwawriai diwrnod gwell cyn bo hir pan symudid y pethau a'u tramgwyddai.

Mae'r cenhedloedd technegolaeddfed hyn, sy'n parchu'r pethau, yn gyfach, yn uwch eu cloch ac yn mygu'r syniad o ddiwylliant fel ffordd o feddwl.

Yn bersonol, oherwydd fy magwraeth yn Llundain, dydw i ddim yn parchu Saeson fwy nag y dylwn i.' ' Er gwaetha'r newidiadau a fu yn y Brifysgol ym Mangor dros y blynyddoedd dywed Gwyn Chambers y bydd yn colli'r ochr ddysgu yn arw.

Oherwydd iddo barchu treftadaeth ei ardal y mae'n parchu'r iaith a chrefft y llenor: myn hefyd fawrygu ac amddiffyn ei dreftadaeth, a diddanu ei gyfeillion, a chofnodi'i edmygedd o'i etifeddiaeth hen.

Parchu'r gyfraith.

Mae gan Bellamy gytundeb pedair blynedd gyda chlwb Highfield Road - ac, yn gyhoeddus o leia, mae hi'n ymddangos y bydd yn parchu'r cytundeb hwnnw.

Symudol yw'r boblogaeth nawr, ac er fod y newydd-ddyfodiaid, yn Gymry a Saeson, yn fwy amharchus o'r Sabath na'r oes o'r blaen, eto y maent hwythau yn parchu cymdogaeth dda ac y mae'r ddisgyblaeth gymdeithasol yn para yn ei grym.

Y cwbl ddwedwn i, os daw perchnogion newydd i'r clwb, go brin y bydden nhw'n fodlon parchu'r cytundeb hwnnw.

Yn ddieithriad, mae'r canu mawl yn parchu'r confensiwn o gyfeirio at ardderchogrwydd llys a'i gydnabod yn fan cynnal 'cyd- wyliau', ac yn eisteddfa uchelwr 'a urddai wlad â'i hardd lys'.

Oherwydd i'r Almaen wrthod parchu niwtraliaeth gwlad belg, erbyn Awst 4, 'roedd Prydain wedi ymuno â'r rhyfel.

Mae yna rai i'w hedmygu yn fwy; mae yna rai i'w parchu yn fwy; mae yna rai i'w hastudio yn llwyrach, a llawer i'w cofio yn fanylach.

Y mae'n iawn ymdrechu tra galler dros gynnal yr iaith Gymraeg yn iaith lafar ac yn iaith lên oblegid mai felly'n unig yn y darn daear hwn y gellir parchu'r ddynoliaeth a fagwyd arno ac y sydd eto'n ei arddel.