Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parciau

parciau

Mae'r Panel yn cydnabod fod lles economaidd a chymdeithasol cymuned y Parc yn bwysig er mwyn cadwraeth effeithiol a mwynhad o'r Parciau, ac na ddylid edrych ar ymwneud Awdurdodau'r Parciau yn y maes hwn fel prif swyddogaeth ond fel swyddogaeth gefnogol i asiantaethau eraill.

Yn achlysurol, bydd wardeiniaid y parciau cenedlaethol yn rhai o wledydd Affrica yn cael eu gorfodi i ladd cannoedd o eliffantod er mwyn rheoli'r twf, a sicrhau bod digon o fwyd i gynnal y rheiny sy'n weddill.

Disgynyddion adar a fagwyd mewn parciau yw'r Gwyddau Canada estronol hefyd, ond credaf fod y ddwy rywogaeth yn ychwanegiadau difyr i adar ein gwlad.

Mae Parciau Cenedlaethol i'w cael ym mhob rhan o'r byd ac wedi eu sefydlu i amddiffyn golygfeydd a bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr y gwledydd hynny.

`O gwmpas y dref, yn mhob cyfeiriad, y mae dyffryn wedi ei fritho â phalasau - rhai pur fawrion a gwychion, ac eraill llai; parciau, perllanau, a gerddi o'u cwmpas.

ffordd orau o wneud hynny yw yng nghyswllt polisi cynhwysfawr a chydlynol ar gyfer delio â phroblemau cymdeithasol ac economaidd ardaloedd arbennig trwy amryw ddulliau sydd yn briodol i ansawdd amgylcheddol y Parciau.

Wrth i Iolo grwydro y tu allan i'r llys, mae'n sylwi ar y berllan, y winllan a'r parciau ar gyfer ceirw a chwningod.

Dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn cwrdd anghenion lleol am waith, yn cyfrannu at amcanion parc cenedlaethol a helpu i ychwanegu at werth cynhyrchion lleol; ii) Datblygwyr ddylai fod yn gyfrifol am gostau ychwanegol dylunio neu ddefnyddiau adeiladu er mwyn cyrraedd y safonau amgylcheddol uwch sydd yn angenrheidiol mewn parciau cenedlaethol; iii) Dylai asiantaethau datblygu gwledig ac awdurdodau lleol gydweithio gyda'r parciau cenedlaethol i hybu cynlluniau datblygu economaidd sydd yn cydweddu ag amcanion parciau cenedlaethol; iv) Dylid edrych yn ffafriol ar arall gyfeirio fferm sydd yn cyfrannu at gynnal busnesau fferm heb beryglu amcanion parciau cenedlaethol.