Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parlyrau

parlyrau

Cyrff mewn parlyrau Sulaidd eu naws: roedd Cymry dechrau'r ganrif yn ddigon cyfarwydd â hynny.

Ar gwahaniaeth cymeriad hwn yw sail y gred yn Westring, a rhai trefi eraill sy'n rhyddfrydol eu barn, ei bod hi'n wahanol i'r chwiorydd eraill sy'n denu Samsoniaid cefnog i'w parlyrau o flwyddyn i flwyddyn.

Yr ydoedd proffwydoliaeth, y diwrnod hwnnw, a'i bwyntil yn argraph ar galchiad pared parlyrau y palasdai acw, - `Mene, Mene, Tecel, Upharsin!' Mene, - `Duw a rifodd eich brenhiniaeth, ac a'i gorffennodd.' Tecel, - `chwi a bwyswyd yn y glorian, ac a'ch caed yn brin.' Peres, `Rhanwyd eich brenhinaeth!' Ac erbyn hyn, y mae y broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni mor gyflym ag sydd bosibl.

Ni wn am harddach tai na ffermdai unigryw yr Engadin - y pyrth mawr bwaog ar gyfer troliau, y ffenestri dyfnion ciwbig, y rhwyllwaith haearn, y patrymau a'r arfbeisiau a'r adnodau Romaneg ar wyngalch neu hufengalch y talcenni, heb son am banelau a nenfydau a meinciau pin y parlyrau gyda'u stofiau anferth addurnedig.

Ond yma mae'r meirw yn eu 'parlyrau perl', a'r marwol arbennig hwn, yn holl addewid ei ddisgleirdeb, ynghladd mewn erw anghyffredin iawn na ddichon i'r byw byth ymweld â hi.

Treuliai ef ei bnawniau Sadwrn yng nghwmni ei fyddin breifat o gyfeillion, un ai ar deras y stadiwm bêl-droed yn cega ei dîm a gollai yn ddieithriad, neu ar y prom yn pwmpio pres i beiriannau soffistigedig y parlyrau adloniant.