Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parod

parod

Ar y llaw arall, yr oedd y bobl hyn yn ddigon parod i gyhuddo Ferrar o'r un trachwant am diroedd a chyfoeth ag oedd mor nodweddiadol ohonynt hwy eu hunain.

Mae'r awdurdodau iechyd yn poeni fod yr arfer o ddefnyddio tatws parod ar gynnydd gan fod y mwyafrif o bobl eisoes yn tueddu i fod yn brin o fitamin C.

Un parod efo'i ddyrnau oedd Owain Goch yr hynaf ohonynt ond am yr ail fab dywedid bod hwn yn graffach na'i gyfoedion.

Roedd Willie wedi penderfynu cyn cychwyn y rhoddai arian parod bob tro y gallai, rhag ofn iddo gael ei wneud wrth dderbyn y newid.

Yr oedd yn rhaid penderfynu wedyn a fabwysiedid un o'r meysydd llafur parod (ac yr oedd nifer o fodelau ar gael), a ddylid addasu un ohonynt, ynteu a ddylid mynd ymlaen i greu un o'r newydd?

Un ddigon pethma oedd hi hefyd, mewn cwpan papur anodd ei drin, ond fe gafodd wen reit gynnes gan y llafnes a'i tywalltodd iddo a "Thanks, luv" wrth gymryd ei arian parod.

Bydd Llanelli yn ddigon parod i barhau yn y rôl honno yfory.

Rhyfedd na fyddai teulu a gafodd gymaint o brofiad o hynny wedi dysgu'r wers honno ac wedi bod yn llai parod i agor ei ddrysau fel y gwnaed yr wythnos diwethaf.

Hoffai pawb hefyd ddiolch i Myrddin Jones, "Dinas", William Williams, "Lon Isa% ac Eric harper, Tŷ Newydd am eu caniatad parod iawn i gael mynd ar eu tir.

Pe bai pobl yn dweud na fedrent ddarllen, byddai ateb parod ganddo, "Gofynnwch i wraig y llety ei ddarllen ichi.

Wir, roedd sawl un yn arfer taro draw wedi nos, gan esgus mynd i weld 'i mam, ac yn ddigon parod i Luned 'i hebrwng e at glwyd yr ardd cyn mynd adre.

Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.

Gan fod Mam yn rhy brysur ar fore Sadwrn i feddwl am baratoi cinio, byddai Dad yn galw yn y siop sglods ar ei ffordd adre i brynu cinio parod.

Yn dilyn llwyddiant American Money, parhaodd Owen Money, y diddanwr parod ei wên, âi grwydr drwy America gyda A Few Dollars More.

Roedd rhai o'r bechgyn a'r dynion a oedd yn 'canlyn ceffyl' - fel y cyfeirid at y gwaith - yn gymeriadau parod eu hateb yn aml, ac mae rhai straeon amdanynt yn dal i gael eu hadrodd yn yr ardal hyd heddiw.

Mae gan bawb rhyw Anti Lora na fedar hi ddim gwneud pethau yr unf ath ag y mae nhw yn cael eu gwneud gartre þ un sâl am wneud bwyd ond yn ddigon parod i hen gusanu gwirion pan fydd rhywun yn mynd i'r tþ.

Nid yw'n syndod, efallai, fod Kennedy a'i gefnogwyr wedi ceisio cuddio'r ffaith ei fod yn dioddef o'r afiechyd hwn, er iddynt fod yn ddigon parod i gyfaddef ei fod yn dioddef llawer gan nam poenus yn ei gefn.

Gwaetha'u modd nid oes llawer o orielau sy'n ddigon dewr i ddangos cylfyddyd fel hyn sy'n fwriadol Gymreig, yn hytrach na dangos sioeau diogel ac arddangosfeydd teithiol parod o'r South Bank.

Roedd torf sylweddol o bymtheng mil wedi troi i fewn i wylio'r gêm, ac unwaith eto, roedd yr arbenigwyr yn ddigon parod i farnu mai blaenwyr Castell Nedd fydde'r meistri.

Mae'r rhai hynny sy'n beirniadu gwyddonwyr yn ddigon parod i fanteisio ar y moethau a'r gwasanaethau a ddaeth i'w rhan o'r cyfeiriad hwn.

Yn dilyn llwyddiant American Money, parhaodd Owen Money, y diddanwr parod ei wên, â'i grwydr drwy America gyda A Few Dollars More. Aeth Frank Hennessy, ffefryn arall ar y radio, Down Under i edrych ar y dylanwadau cerddorol yn Awstralia a chafwyd trydedd gyfres o Roy Noble on Common Ground gyda'r cymeriad bywiog hwnnw, Roy Noble, sydd â gwobr RTS i'w enw.

Yr oeddent yn ddigon parod i weithredu'n amheus a threisgar er mwyn ychwanegu at eu cyfoeth a'u dylanwad.

Mae pob dim yn PDH bellach - archfarchnadoedd, llefydd parcio, banciau, peiriannau parod.

Yn fwy na dim, yr oedd yn gymwynaswr parod; yn wr a'i galon yn fwy hyd yn oed na'i gorff, ac yn gyfaill ffyddlon a theyrngar.

Tra oedd y disgyblion yn dyfalu beth i'w wneud, ac yn amau doethineb y bwriad i ddychwelyd ar y daith beryglus i Fethania peryglus am fod yr awdurdodau yn ceisio dal yr Iesu a'i ladd Tomos oedd yr un, parod i fynd gyda'r Iesu bob cam o'r daith, parod i wynebu'r canlyniadau.

Mae gan Gaerdydd bum blaenwr yn barod a thra bod y clwb wedi mynnu dro a thro na fyddan nhw'n gwerthu eu prif sgoriwr y tymor hwn - Robert Earnshaw - mae'n bosib y byddan nhw'n fwy parod i Leo Fortune-West, Kevin Nugent, Paul Brayson neu Kurt Nogan adael.

Yn yr un modd,- faint o nodiadau y maent yn eu bwydo i'r dosbarth yn bryd parod a faint y maent yn eu cynnig ar ffurf cynhwysion i'r disgyblion eu hunain eu defnyddio i lunio'u prydau cyn eu treulio'n llawn.

Nid darparu ystod anhygoel o eang o nwyddau yn unig a wnaent ond gweithredu fel bancwyr di-dal a chynghorywr parod i wrando.

Roedd Tremenheere, a oedd, o'i gymharu â'r arolygwyr eraill, yn eithaf parod i ystyried yr amgylchiadau, ac nid yn foesolwr oeraidd, yn cymryd gofal mawr i bwysleisio bod y gweithwyr at ei gilydd yn cael eu talu'n dda am eu gwaith, pa mor llafurus ac annymunol bynnag ydoedd.

Raid i ddyn ddim ond dechrau dweud stori ysbryd a fydd ganddo gylch o wrandawyr parod.

Ers rhai misoedd cyn cwrdd â Miss Derwent 'roeddwn i wedi bod yn llythyru â Chwmni Collins, a'i gael y cwmni mwyaf parod i sicrhau fod plant Cymru'n cael cyfieithiadau Cymraeg, a hynny heb ofidio am y golled ariannol a allai ddilyn y fenter, a heb ddisgwyl unrhyw elw, ac eithrio'r cyfle i ledaenu enw da'r Cwmni trwy Gymru.