Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parodrwydd

parodrwydd

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Er gwaetha'r ffaith ein bod yn elynion, a mi'n garcharor ac yntau'n warcheidwad, roedd ei grefydd newydd, ei Gristnogaeth, yn golygu parodrwydd i fentro'i fywyd dros ei gyd-ddyn, pwy bynnag ydoedd.

Ond un peth amdanynt a fu'n destun edmygedd i mi ers y dyddiau yr oedd gen innau blant mewn ysgol oedd eu parodrwydd digwestiwn i gymryd gofal o blant y tu allan i oriau ysgol.

Yr un parodrwydd i rodio llwybrau newydd a'i gwnaeth yn arloeswr dihafal ym maes dieithr darlledu yn nes ymlaen ar ei yrfa.

Yn wir mae'r parodrwydd i fod yn ddigon gostyngedig i gydnabod ein camgymeriadau yn aml yn dystiolaeth gryfach na phan fyddwn yn llwyddo bob tro.

'O'r cychwyn, parodrwydd aelodau'r Gymdeithas hon i gyflawni tor-cyfraith … a roddodd rym ac arddeliad i'w hymgyrchoedd.

O orfod cydnabod hynny, mae'n frawychus sylwi ar ein parodrwydd i anwybyddu'r dylanwad pwysicaf ar ein bywydau.

Cyfranogi yn y Cwrs Asesir pob myfyriwr ar y cyfraniad a wnaeth i'r cwrs, gan gynnwys cyfrannu'n gadarnhaol i drafodaethau, parodrwydd i helpu trefnu achlysuron arbennig, arddangosfeydd o waith y myfyrwyr, etc.

Y peth trawiadol yw parodrwydd eiddgar y Llywodraeth i ymateb i'r cais.