Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pasio

pasio

Ers pasio'r ddeddf hon, newidiodd hinsawdd ieithyddol Gwlad y Basg.

Siopau disgownt, bwytai Indians di-sglein, tai teras sydd wedi gweld dyddiau gwell - fe fyddwch yn eu pasio i gyd cyn cyrraedd canol tre' Castell-nedd.

Ryw filltir yn ôl.' 'Wedi pasio'r lle ddeutsoch chi?

Maen bwysig bod e'n pasio'r profion meddygol.

Wedi pasio drwy'r mannau angenrheidiol heb gael fy holi neu fy amau - mae edrych yn betrusgar mewn maes awyr yn wendid - dyma fi'n setlo ar yr awyren.

Mi fydde hyn yn pasio'r amser, ac, os deuai Rick heibio, mi allai hi ei weld o drwy'r ffenest.

A yw hi'n bryd i ni ystyried pwysigrwydd y pentrefi "pasio drwodd" 'ma yng Nghymru?

Un o'r pethau cyntaf a wna gwledydd ar ôl sefydlu seneddau newydd (fel yng Ngwlad y Basg a Catalunya) yw pasio deddfau Iaith Newydd.

Sylwch ei fod yn bosib pasio'r nodwydd trwy'r haenen sebon o un ochr i'r llall heb dorri'r haenen.

Doedd yna ddim gwaed ar y stryd y tu allan i adeilad y Cynulliad Cenedlaethol pan oeddwn yn pasio bnawn Sul - er gwaetha'r hyn a ddigwyddodd i'r Fonesig Gwyther ar ei ffordd i'r Roial Welsh.

A pheidiwch a bod yn ddierth, da chi!' 'Ie, cofiwch nawr - galwch bob tro fyddwch chi'n pasio heibio i'r Llety!

Bydd golau'r gannwyll yn pasio trwy'r twll yn y cerdyn, trwy'r bowlen, gan ffurfio delwedd ar y cerdyn gwyn.

Roedd yna Gymry'n byw mewn amrywiol wledydd ac yn anfon llythyrau cyson i'r papurau newydd; roedd yna hefyd bapurau newydd Cymraeg mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau, ond rhywsut, doedd y rheiny ddim yn pasio'r prawf angenrheidiol o fod yn cynrychioli un wlad mewn gwlad arall.

Testun dirmyg oedd y Crynwyr gan mwyaf, ond yn y blynyddoedd ar ôl pasio Deddf y Tai Cyrddau edrychid arnynt gydag ofn hefyd.

'Anodd deud, achan.' 'Wel, triwch graffu, bendith y nefoedd i chi.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' 'Ma' rwbath yn deud wrtha' i bod ni wedi pasio'r lle...

Dros y blynyddoedd mae Senedd Ewrop wedi pasio sawl mesur yn datgan bod rhaid trin pob iaith swyddogol yn gyfartal er mwyn sicrhau cyfartaledd ymhlith yr aelodau.

Un o'r camau cyntaf a gymerir gan wledydd wedi iddynt ennill ymreolaeth yw pasio deddfau iaith newydd.

'Beth, Magwen fach, fe fydd yn ein pasio ganweth y dydd cyn diwedd ag ystyried yr holl waith fydd 'dag e i neud lan'na!'

Doedd neb yn gallu pasio'r bêl o gwbl.

Wyt ti am chwarae pasio'r parsel ar lan afon?' gofynnodd Bleddyn yn flin.

Dowch chi draw eto os byth y byddwch chi'n pasio." "Pasio," meddai Laura Elin gan ymestyn chwerthin.

Erbyn hyn hefyd 'roedd Waldo wedi clywed mai cwbl gyfeiliornus oedd y datganiad a roddodd Mr S iddo am y pwyllgor: 'roeddent hwy wedi pasio i gadw Waldo yng Nghas-mael yn sefydlog ac nid yn unig tan y Tribiwnlys fel y dywedasai Mr S.

"rydw i wedi eu pasio nhw droeon ar fy nheithiau yma ac acw ac wedi diolch bob tro nad y fi fu raid llusgo'r fath lwyth o gerrig i fyny i'r rhostir.

Ond gan nad oedd ystadegau yn bethau mor bwysig yr adeg honno ein tuedd oedd dweud nad ydi pasio arholiad ddim yn bopeth.

Dwy hen wraig ar eu ffyn yn pasio siop gigydd.

Fe ddaethon ni i'r penderfyniad mai'r Cynulliad yw ein targed ni: er mai yn San Steffan y byddai angen pasio'r ddeddfwriaeth, fe ddylai gael ei chyflwyno gan y Y Cynulliad.

O'r herwydd, doedd yna, yn llythrennol, ddim car yng nghyffiniau y Gaiman a Threlew nad oedd ei ffenest flaen yn graciau i gyd - wedi eu malu gan y cerrig dirifedi a fyddai'n cael eu taflu gan olwynion ceir eraill yn pasio.

Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, ymgofrestrodd yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol a sefyll yr arholiadau rhagarweiniol ar gyfer MA Ar ôl pasio'r rheini, aeth rhagddo i baratoi traethawd MA ar "Yr Ysgol Sul o safbwynt Addysg Fodern" ond oherwydd y galwadau cynyddol ar ei amser ni chwblhaodd y gwaith.

Dealled y darllenwr nad pasio rimarcs am drwyn llythrennol yr hen frawd cu yr ydw i.

Nid oedd Ap Vychan o blaid cael offeryn chwaith ac ar ôl pasio'r penderfyniad i gael un, ei sylw wrth y gynulleidfa oedd, "Hwyrach y byddai gystal ichwi fynd ymlaen i brynu mwnci!" Ond er gwaethaf pryderon y beirniaid, dal i fynd o nerth i nerth yr oedd y canu, gyda'r côr yn cipio'r gwobrau yn yr eisteddfodau.

Wir ichi, fe fydd yn dda 'da fi weld rhyw enaid byw ar wahan i ddafad yn pasio heibio lan y feidir 'ma to!' Mor harti yr hebryngai'i thad y pwrcaswr at y dwrs, ac fel roedd ei mam yn ei ystlysu ac yn ei eilio bob cam i'r rhiniog!

Rhaid oedd pasio'r wyrcws i fynd i'r ysgol, ar hyd llwybr trwy'r cae agosaf at y muriau uchel nes cyrraedd y ffordd fawr.

Yn nhyb llawer, hwn yw'r mewnwr gorau yn y wlad, ond gorddweud yw hynny: gall amrywio'i chwarae cystal - rhedeg pasio a chicio, ac mai ei gic ef i'r gornel a barodd y trafferth i Gastell Nedd pan sgoriodd Andrew Morgan drydydd cais Llanelli.