Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pebyll

pebyll

Yn y bôn, roedd rhaid inni gredu os nad oedden ni yno, na fyddai'r milwyr, yr hofrenyddion, y pebyll, y feddyginiaeth na'r bwyd yno ychwaith.

Daeth cyffro sydyn i'r pebyll; dadwersyllwyd mewn byr amser ac yn syndod o fuan roedd y cwbl wedi ei bacio ar gefnau'r camelod, a rheiny'n protestio yn eu ffordd arferol yn erbyn gorfod codi oddi ar eu pen-liniau.

Roedd milwyr eraill yn codi pebyll - rhai glas a gwyn sgwâr a fyddai'n gartref i'r ffoaduriaid tra'u bod yn dal i ofni dychwelyd i'r trefi.

Buasai fy ffrind Goldwater wrth ei fodd tasa fo yma rwan." Erbyn hyn roedd y pebyll wedi eu gosod a'r tegell ar y tân - a dim eiliad yn rhy fuan.

Mae'r achosion mwyaf difrifol yn derbyn gofal rownd-y-cloc gan weithwyr Cronfa Achub y Plant mewn pebyll arbennig.

A minnau'n meddwl fy mod i uwchlaw castiau dosbarth canol o'r fath, cefais fy hun un p'nawn ar Faes y Brifwyl, yn gwthio merched parchus mewn cotiau plastig yn ddi-seremoni o'm ffordd er mwyn i mi gyrraedd yn gyntaf at y cardiau 'Dolig yn un o'r pebyll elusennol.

Dim ond pebyll ysgafn sydd gennyn nhw, ac mae rhai ohonyn nhw heb bebyll o gwbl.

Wrth i'r gwragedd fynd i mewn i'r pebyll, maen nhw'n rhoi cangen yr un ar y llawr - er mwyn cadw'r tân coginio yn y canol ynghynn.

Ac yntau'n baglu o'n blaen wysg ei gefn dros raffau'r pebyll, rhoesom ar ddallt iddo ein barn ynglŷn â'r mater.

Ar y ffordd i mewn i'r ddinas, dyma ddod o hyd i wersyll, lle y caem osod ein pebyll i fyny ar gyfer ein harhosiad.