Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pechaduriaid

pechaduriaid

Deued pechaduriaid truain Yn finteioedd mawr yn nghyd, Doed ynysoedd pell y moroedd I gael gweld dy wynebpryd: Cloffion, deillion, gwywedigion, O bob enwau, o bob gradd, I Galfaria un prydnawngwaith, I weld yr Oen sydd wedi ei ladd.

Ni chai enllib, ni chai llaid Roddi troed o fewn i'w tre Chwiliai 'mam am air o blaid Pechaduriaid mwya'r lle.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.

Pa mor amrwd bynnag yw'r syniad am aberthu anifeiliaid, y mae o leiaf yn dangos ffordd a ordeiniwyd gan Dduw i gymodi pechaduriaid ag ef ei hun, ffordd na fynnai ond gweithred seml ar ran y dyn ei hun.

Y mae angen inni gael ein diddyfnu oddi wrth y siniciaeth sy'n peri inni ddiystyru gallu gras Duw i achub pechaduriaid.