Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pella

pella

Ardal enwog o fewn yr ardal yw mangre Hafod Elwy a Thai Pella'...

Bu Mr Pape yn gigydd ym mhen pella'r stryd fawr am rai blynyddoedd.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Ond cyn imi gael amser i gerdded ar draws yr ystafell a chyrraedd ei phen pella yr oedd y cwbwl oll wedi diflannu.

Gwthiodd ei ffordd tua drws ym mhen pella'r stafell.

Gwyddwn fod yr amser yn nesau i mi symud i ddosbarth Modryb Lisi ym mhen pella'r festri, a dyna'r unig dro nad oeddwn am dyfu i fyny.

Fedrwch chi ddychmygu prysurdeb y gwaith copr ganrif yn ôl, ger pen pella'r llyn?

Wedi gofyn imi dynnu fy nghrys, diflannodd y doctor y tu ôl i sgrin ym mhen pella'r ystafell fawr.

Heibio cae pella a'r gors bach, yna i ben draw gors fawr,' a disgrifio'r daith yn ôl wedyn.

Ym mhen pella'r castell, roedd seithfed tūr, yn fwy na'r un arall, ac iddo ddeg ochr: pen anferth i gorff nerthol.