Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pellaf

pellaf

A gosod y gornel honno ym mhen pellaf, pellaf, un y maes parcio.

Wrth droi cornel o'r llwybr daw'r pen pellaf, o'r penrhyn i'r golwg, golygfa syfrdanol.

A minnau yn ymyl talcen gwesty bychan, daeth cerbyd â'i lond o Americaniaid heibio a chynnig fy nghludo hyd ben pellaf y ffordd.

Eisoes, roedd y bugeiliaid ar y bryniau pellaf wedi rhuthro'n ôl i'r dref gyda'r neges arswydus bod byddin anferth ar ei ffordd tuag yno, Cannoedd, os nad miloedd o filwyr.

hoelient eu llygaid ar gorff eiddil ffred ac ar ruthr cynddeiriog yr afon lle suddai pen pellaf y gangen, dim ond hyd braich oddi wrth long ffred, i drobwll dwfn.

Ni fyddem yn derbyn yn ein cartrefi luniau teledu o ddigwyddiadau ar gyfandiroedd pellaf y byd eiliadau wedi iddynt ddigwydd.

Bangor R. Tudur Jones Pobl a ddeuai o ben pellaf Môr y Canoldir yw'r trigolion nesaf y mae eu holion i'w cad yng Nghymru.

'A!' gwaeddodd Geraint mewn braw; doedd o dim wedi disgwyl ateb i'w gwestiwn, a chiliodd yn ôl i ben pellaf yr ystafell.

Y mae'r planedau pellaf, hyd yn oed, wedi gorfod ildio'u cyfrinachau i lygaid dyn.

Aethom allan trwy'r drysau gwydr ac ar hyd llwybr llyfn o fflagiau coch a oedd yn arwain o'r garej hyd ymyl pellaf y lawnt.

Ond fel yr oedd yn cyrraedd y cyrion pellaf yr oedd cyfnod a byd yn dechrau mynd heibio.

Mi ellwch ddychmygu fy nghyffro pan welais i Twm Dafis yn cychwyn allan tua hanner nos ac yn mynd i ben y boncen acw sydd yng nghae pellaf Cri'r Wylan.

Roedd y rhan gyntaf a'r fwyaf ar ffurf saith ochr, gydag un o'i muriau pellaf â phlyg tebyg i goes gefn milgi.