Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

penbleth

penbleth

Gyda dim ond ffin eang ac agored rhyngom a helaethrwydd Lloegr, y mae union natur cenedligrwydd yn peri penbleth.

Wrth weld penbleth y ddwy eglurodd Mr Puw Ymhellach, 'Mi fyddwn i'n dechrau gyda'r tystysgrifau marwolaeth a gweithio yn ôl.

"Wn i ddim yn iawn," meddai Einion mewn penbleth.

Roedd Dr Braithwaite mewn penbleth am funud ynglun a'r ffordd i ymateb.

edrychodd y tri ar ei gilydd mewn penbleth penbleth rhaid inni fynd i ddweud wrth rywun, meddai gethin.

"Pwy?" gofynnodd Sam, mewn penbleth.

'Rydw i wedi'i glywed o lawer gwaith o'r blaen pan oeddwn yn gweini ar ewythr i mi cyn iddo fo groesi afon Angau!" 'Roeddwn mewn penbleth ofnadwy.

Aeth y brenin druan i ffwrdd dan grafu ei ben mewn penbleth.

Roedd hi mewn penbleth.

Roedd rhywbeth yn achosi penbleth i Gethin hefyd, ond ni chafodd amser i benderfynu beth, oblegid roedd syndod mud y ddau ffrind yn achosi i'w gosgordd golli eu teimladau o barchedig ofn tuag at y brodorion cyntefig.

Erbyn diwedd Chwefror yr oeddwn mewn penbleth.

Mae'r lladron cathod yn gweithio yn y nos, ac mae ysbryd llestri aur Plas Madyn yn prowla yn y nos hefyd." Crychodd Llinos ei thalcen mewn penbleth.

Tra bo Plaid Cymru mewn penbleth nid yn unig pwy a gaiff i'w harwain ond sut y caiff ei harwain y mae ei chefnder yn yr Alban yn paratoi i ddathlu.

Yn yr un modd mae'r prif drac yn achosi penbleth yn ogystal, gan fod Deud Dim yn agoriad annisgwyl i'r albym.

Er i'r cyfnewid cyhuddiadau hyn ymylu ar ryfel preifat rhwng y golygyddion o dro i dro, gan dueddu gadael y darllenwyr mewn penbleth ar yr ymyl, cyfrannodd at y broses o godi ymwybyddiaeth ynglŷn â mater yr Eglwys Sefydledig.