Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pencampwr

pencampwr

Mae'n sicr bellach mai Stephen Hendry, Pencampwr y Byd ar saith achlysur, fydd yn chwarae Stevens yn rownd yr wyth ola.

Trechodd y Cymro arall Mark Williams, Pencampwr Snwcer y Byd ar hyn o bryd, Billy Snaddon o bum ffrâm i dair neithiwr.

Ond Marcus Gronholm o'r Ffindir yw Pencampwr y Byd ar ôl gorffen yn ail.

Nid oes neb yn hoffi mynd i mewn i r cylch gyntaf felly bydd y sawl sy'n ceisio disodli'r pencampwr yn gorfod plygu o dan y rhaffau gyntaf a chamu i'r cylch.

Yn y gêm gynta ar y Cwrt Canol bydd pencampwr y llynedd Pete Sampras yn chwarae Jiri Vanekac.

`Dyna ferch sy'n medru rhedeg!' Doedd hyn ddim yn syndod oherwydd Debbie oedd pencampwr yr ysgol am redeg wyth can a phymtheg can medr.

Hi oedd pencampwr sbaniels y sir ac roedd hynny'n glod mawr.

Ac fe enillodd Pencampwr y Byd ffrâm a barodd am 47 o funudau - oes iddo fe.

Ronnie O'Sullivan yw Pencampwr Snwcer newydd y Byd.

Dros nos yr oedd Stevens ar y blaen o 11 ffrâm i 5 yn erbyn Stephen Hendry - pencampwr y Byd ar saith achlysur.

Ar ôl amddiffyn teitl pwysau uwch-ganol y WBO am yr wythfed gwaith nos Sadwrn, fe allai Joe Calzaghe fod ar drothwy'i ornest fwya erioed - gyda Roy Jones Junior, pencampwr byd y pwysau is-drwm.

Sicrhaodd Frank Warren y ffeit a bydd yn gyfle i Dai Gardiner, sy'n rheoli Regan, gael pencampwr y byd arall dan ei adain yn ogystal a Steve Robinson, pencampwr pwysau pryf y byd, sy'n dod o Gaerdydd.

Dyn o'r enw Ekumdayo Badmus a anwyd yn Nigeria ydi pencampwr cenedlaethol newydd chwarae Monopli yn Iwerddon.

Mae Mark Williams, y Pencampwr Byd, trwodd i rownd yr 16 ola ym Mhencampwriaeth Snwcer Prydain yn Bournemouth ar ôl curo Tony Drago, naw ffâm i un.

Dyna oedd sylw cyntaf y Pencampwr draffts, Joe Charles.

Ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield neithiwr enillodd Pencampwr 1997, Ken Doherty, ei gêm rownd gynta yn erbyn Nick Dyson o ddeg ffrâm i saith.

Ar ôl sesiwn gynta ei gêm yn y rownd gyn-derfynol, mae Stevens ar eu hôl hi yn erbyn Pencampwr 1998 John Higgins - ond mae hi yn agos - 5 ffrâm i 3.

Fydd Pencampwr 400 metr dan-do y Byd, Jamie Baulch, ddim yn cael y cyfle i amddiffyn ei deitl.

David Evans o Bontypwl yw Pencampwr Sboncen Agored Prydain.

Curodd Stevens Tony Drago o deg ffrâm i un neithiwr ac ar ddiwedd y gêm dwedodd Drago wrtho fo ei fod o'n gobeithio mai y fo fydd y Pencampwr eleni er cof am ei dad, Morley, fu farw yn ddiweddar.

Bydd pencampwr chwech o'r saith mlynedd ddiwetha yn Wimbledon, Pete Sampras, yn parhau i chwarae yn y gystadleuaeth er bod sgan yn dangos ei fod wedi anafu tendon yn ei ffer yn ystod ei fuddugoliaeth dros Karol Kucera ddoe.

Mae'r pentref yn enwocach am ei aeaf, ei eira a'i ganolfan sgio ac yn gartref i'r pencampwr Frans Klammer.