Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pendant

pendant

Nid oes rhaniad pendant rhwng disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a'r disgyblion eraill.

Prawf pendant o fawredd.

Yr wythnos yma cafwyd cadarnhad pendant fod cwmnïau recordio Sain a Gwynfryn yn ymuno.

Mae yna nodweddion eraill na ellir eu rhannu i ddosbarthiadau pendant.

Llwyddodd y cerddi hyn i lusgo cystadleuaeth y Goron o'r merddwr yr oedd ynddo ar y pryd, a rhoi nod a chyfeiriad pendant i feirdd rhydd y dyfodol.

I Graham Henry roedd buddugoliaeth 1999 yn drobwynt pendant.

Oherwydd mai proses yw, ofer felly yw edrych am nodweddion pendant o'r economi y gellir ceisio eu darganfod yn yr uwch-ffurffiant.

Gellir rhannu anifeiliaid i ddosbarthiadau neu grwpiau pendant ar sail nodweddion o'r fath.

Mae casglu ffeithiau pendant i adeiladu'r darlun yn rhagdybio fod y pethau hyn yn bendant, sicr a di-newid.

Ac ystyried natur dybiannol y cwestiwn, nid yw'n syndod efallai fod tuedd i'r atebion a gafwyd groesddweud ei gilydd; ac nid oes modd felly ddod i unrhyw gasgliad pendant ar sail yr astudiaethau hyn.

'Dweud wrth yr heddlu siŵr iawn,' oedd ateb pendant Alun.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Mynnai gael swm pendant i anelu ato wrth gynilo.

Tipyn mwy pendant ac eglur na'r Cyfamod Sgotaidd, a llawer mwy anodd i'w dderbyn na datganiad penagored "gwnaf fy ngorau .

Mae yna ddatblygiadau pendant sy'n ei gwneud hi'n haws mesur nifer o nodweddion mewn anifeiliaid fferm.

I Gymru, mae'n brawf pendant y gall ei thraddodiad dawns sefyll ysgwydd yn ysgwydd â thraddodiad unrhyw wlad dan haul.

Yr oedd hi wedi sylweddoli erstalwm iawn nad oedd dim pwrpas dweud mai barn y rheithgor oedd yn bwysig ac nid ei barn hi, Yn ddieithriad, wedi iddi osgoi rhoi ateb pendant, y sylw wedyn fyddai, 'Ond rydw i am i chi gredu 'mod i'n ddieuog.'

Ceir trefn goruchafiaeth pendant ymhlith adar y llwyni.

Rhaid i athrawon a/ neu adrannau ystyried mabwysiadu polisi pendant ynglyn a chywair eu hiaith lafar.

Mae ei eiriau yn llawer mwy pendant a difrifol yma.

'Byddwn yn parhau i edrych a oes modd gwella'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol ond ni allwn wneud unrhyw ymrwymiadau pendant ar hyn o bryd.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

Mae ei holl adwaith i'w amgylchfyd, fel y portreedir ef, yn arwydd pendant o'i benderfyniad i ddal ei dir ac o'i allu i ffynnu ymysg lladron a thaeogion.

"Wel", meddwn i, i gael amser i feddwl am esgus mwy pendant.

Cyfarfod pendant, adeiladol.

Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.

Yn aml, ar ben bwrdd y safai yntau cyn awr ei dynged, a'i esgidiau oedd y cyswllt mwyaf pendant rhyngddo â'r ddaear - rhwng bywyd a marwolaeth.

Ei gasgliad penagored oedd: 'nid oes dim pendant iawn yn ymgynnig i mi parthed oed yr englynion'.

Er bod swyddogion yn honni bod cyfleusterau "gwych" yno, doedd dim trefniadau pendant ddechrau'r wythnos i gludo pobol yn ôl ac ymlaen.

Doedd o ddim yn gynllun pendant iawn, a phrin yr oedd hi'i hun yn ymwybodol beth oedd o yn union.

Golygai ei derbyn or-ogoneddu'r gorffennol, golygai weled patrwm pendant gosodedig-oddi-fry yng ngweithredoedd dynion, golygai ddefnyddio'r gorffennol fel mynegbost i'r dyfodol.

Ond gwrthodiad pendant a gafodd a pharhaodd Bowser i dramwy heibio'r fferm yn ffroenuchel gan anwybyddu'r boen a'r gofid a fodolai yno.

Yr oedd ar raglen y Gynhadledd gynnig oddi wrth un o ganghennau'r Gogledd, yn galw am ymwrthod â pholisi economaidd tybiedig y Blaid, a mabwysiadu polisi pendant sosialaidd; yr oedd y cynnig yn faith iawn, gan ei fod yn manylu'n llawn am yr hyn a olygid.

Yn ddamcaniaethol yr oedd gwahaniaeth pendant rhwng y boblogaeth Seisnig gymharol fechan, a oedd wedi'i sefydlu yn y bwrdeistrefi ac ar y tir gwaelod (yn enwedig yn y Mers), a'r boblogaeth Gymreig, yn wŷr rhyddion ac yn gaethion, a oedd yn trin y tir a oedd yn weddill.

"Gwaith dyn yn darfod, gwaith Duw yn parhau - ai dyna pam?" "Nage," atebodd Aled, yn fwy pendant ei lais, ond yr un mor ddryslyd ei edrychiad.

Ym mhob achos o anghytundeb ynglŷn â chategoreiddio, bydd pob penderfyniad yn cael ei egluro i'r cynghorau cymuned gyda rhesymau pendant dros y penderfyniad gan y Cyngor Sir a'r Cyngor Dosbarth.

Hynny yw, roedd yr angen i fod yn ddogmatig yn gryf ynddo, ac roedd cyflwyno fframwaith pendant, heb godi amheuon, yn cyflenwi'i angen am awdurdod dibetrus.

Bod pob cainc amheus y mynnir ei harfer i'w difreinio, megis y gainc heb doriad pendant i'w rhan gyntaf, a phob cainc y cytunir na ddwg traddodiad y gelfyddyd eirda drosti.

Ganed Richard Davies rywbryd yn ystod deng mlynedd cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg - ni allwn fod yn fwy pendant na hynny, gwaetha'r modd.

Dealltwriaeth y Gymdeithas yw fod bwriad pendant i ddiwygio hyn.

Mae'r strategaeth raglenni a'r cyllid cyhoeddus yn brawf pendant o ymrwymiad Awdurdod S4C i'r flaenoriaeth honno.

I mi, fe gafwyd llwyddiannau pendant o gwmpas Rhodri Morgan yn nhermau'r berthynas sy'n bodoli rhwng cymunedau ffydd a'r Cynulliad.

Bu'r Dafydd o'r dechrau yn ddienwad, ac yn amholiticaidd yn yr ystyr na thrafodid gwleidyddiaeth ynddi: nid yn yr ystyr nad oedd gan aelodau'r gymdeithas syniadau gwleidyddol pendant.

Ystyrid cyhoeddi'r Traethawd o hyn ymlaen gan awdurdodau'r Brifysgol fel symudiad pendant tuag at Eglwys Rufain, a daeth y mudiad fwyfwy dan amheuaeth, nid yn unig yn Rhydychen, ond hefyd yn y wlad yn gyffredinol.

Ar yr olwg gyntaf fe allech ystyried hyn yn rhywbeth pendant.

Copi mlaen llaw yn unig sydd wedin cyrraedd ni, ac mae gan y grwp gynllun pendant ynglyn â sut fydd yr EP yman cyrraedd y siopau.

Eglurwyd wrtho bod angen ateb pendant ar y mater erbyn y cyfarfod nesaf.

canlyniad y llwyddiant oedd i'r mudiad heddwch gael hwb pendant a haeddiannol ymlaen ac i'r gymdeithas heddwch ennill amlygrwydd a chyhoeddusrwydd iddi hi eu hun a'i gwaith.

Golygai disgyblaeth deuluol gydnabyddedig fod gan bob uned o'r fath gyfraniad pendant i'w wneud yn y gymdeithas.

O'i flaen, gwelai siâp pendant yn dod yn gliriach ac yn gliriach.

Mae'n cynnig atebion pendant a chlir.

Edrychwn ymlaen at ein degfed penblwydd gyda'r sicrwydd ein bod yn cynnig ffordd pendant o adfer yr iaith trwy gynnal gweithgareddau a chyfleoedd sy'n dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd.

Gofynnwyd iddo lawer gwaith, 'Pam mae'n rhaid i chi gael rhegi bob yn ail gair, Francis?' a'i ateb pendant fyddai, 'Fydda i byrh yn rhegi, tydi'r ddau air rydw' i'n eu hiwsio yn ddim ond g¨iriau llanw, tydy' nhw'n golygu dim, ac mae'r ddau i'w cael ble mynnoch chi yn y Beibl.'

Yr hyn sydd ei angen yw ymdrech integredig a chyfnod o gynllunio pendant er mwyn adeiladu ar gryfderau sy'n bodoli, adnabod unrhyw anghenion datblygu a gosod ar waith strategaeth i ateb yr anghenion hynny.

Mae'r Adran wedi rhoi cychwyn pendant ar ddefnyddio Technoleg Wybodaeth, gan feddu ar y sustem fwyaf soffistigedig a chynhwysfawr o blith holl adrannau'r Awdurdod.

"Sgrifenna ati fel petasai'n ferch i ti% - dyna'r unig orchymyn pendant a gefais ganddo.

Ymhlyg yn y sylwadau hyn y mae condemniad pendant ar ddespotiaeth gwladwriaethau'r hen fyd ac y mae'n sicr fod llawer o eiriau Iesu i'r un perwyl heb eu rhoi ar goedd yn y dogfennau hyn.

Ond roedd yna rai rheolau pendant ynglŷn ag addurno'r tai ar gyfer yr ŵyl.

Morris yn barod i symud yno o Sylhet am gyfnod mor fyr â chwe mis; y drwg oedd bod Pengwern yn gohirio'i ymadawiad nes bod trefniant pendant wedi ei wneud i ofalu am ei orsaf.

Erbyn hyn nid hawdd rhoi ateb pendant.

Pan holasom pa nwyddau arbennig oedd ar werth esboniwyd wrthym nad oedd neb yn gwybod nes cyrraedd y cownter, ond fod hyd y ciw yn brawf pendant fod rhywbeth gwerth ei gael yno'r diwrnod hwnnw.

Cyflwynodd Mabon a Ffederasiwn Glowyr De Cymru dystiolaeth fanwl am weithredoedd bwystfilaidd y polîs, ond yn wastad cawsant ateb pendant a boneddigaidd oddi wrth Churchill: 'Na', nid oedd sail ddigonol i gyfiawnhau cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus.

Y mae gennyf brawf pendant o hynny, oherwydd am rai blynyddoedd ar ôl i'r clwy glirio byddwn yn dod ar draws cwningod gyda nod clust arnynt.

Mae angen i'r BBC ddatblygu camau nesaf y broses o drosglwyddo BBC Radio Wales i FM ar fyrder, i'w wneud yn fwy cystadleuol, ac o ran radio digidol, gwna'r Cyngor bopeth posibl i gefnogi nod pendant BBC Darlledu o ddarparu BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru digidol ar yr un pryd â fersiynau digidol gwasanaethau rhwydwaith y BBC.

Gan fod holl gwestiwn paham y cafwyd y cyfryw ddadeni ag a welir ym marddoniaeth y Gofynfeirdd heb sôn am paham y cafwyd eu 'rhieingerddi' ynghlwm wrth y cwestiwn hwn, mi fydd efallai'n fuddiol trafod cefndir y rhieingerddi ynghyd â chefndir cyffredinol canu'r Gogynfeirdd yn hytrach na cheisio ateb pendant penodol na all beidio â gorsymleiddio'r sefyllfa.

Mae yna reolau pendant i'w dilyn ac os 'dach chi'n gwneud llinell sy'n iawn yn gynganeddol - ac yn swnio'n iawn - 'dach chi'n gwbod bod hi'n iawn.

Fersiwn ‘accapella' ydi'r trydydd trac ac yma fe geir prawf pendant o'r ffaith nad peth hawdd yw rapio.

Gobeithio erbyn diwedd y flwyddyn hon y gallwn ddatgan fod camau pendant wedi eu cymryd yn yr ymgyrch hon.