Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

penderfynodd

penderfynodd

Ond, ar ôl meddwl, penderfynodd mai gwell oedd peido ag aflonyddu arno.

Penderfynodd y Pwyllgor ethol yn Gadeirydd y Parch.

Penderfynodd y cwmni ddewis Nantgarw er iddyn nhw ystyried nifer o safloedd eraill ym Mhrydain.

Ar y ffordd nôl trwy'r dref, penderfynodd brynu tipyn bach o dinsel i wneud iddo'i hun deimlo'n hapusach.

Oherwydd bod nifer o bobl ifanc asgell chwith wedi ymuno â Phlaid Cymru wedi Penyberth penderfynodd Saunders Lewis ymddiswyddo o'r llywyddiaeth am na fyddai Cymru yn derbyn arweinydd Pabyddol.

penderfynodd roi'r gorau i'w waith yn y coleg, a symudodd i bowling green, warren county, kentucky, gan gynnal ei hyn trwy ddysgu cerddoriaeth i ddisgyblion preifat.

Penderfynodd ei gwisgo.

Un bore, beth amser ar ôl ei throedigaeth, penderfynodd Pamela weddi%o ar ei gliniau cyn cychwyn ar ei gwaith dyddiol.

Penderfynodd y Ganolfan Rheoli Afiechydon felly fod rhywbeth newydd yn peri diffyg yng nghyfundrefn imwn y cleifion hyn.

Penderfynodd Bob beth i'w wneud.

er enghraifft y tro hwnnw y penderfynodd newid enwau'r misoedd.

"Mae o wrth y drws o hyd felly," penderfynodd Morfudd.

Penderfynodd fod yn lleian a sefydlodd eglwys yma ar Llandwynwen.

Wedi ennill y loteri yn 1999 penderfynodd Dyff brynu'r Deri gan ei osod ef a'i deulu yng nghalon y pentre.

Parhaodd y garwriaeth rhwng Martin a hi am beth amser, ond yn y diwedd penderfynodd ef na fedrai adael ei wraig a'i blant er mwyn Mary Yafai, a phan ddywedodd hynny wrthi, digiodd yn llwyr a mynd unwaith yn rhagor i dŷ ei mam y tro hwn heb y plant.

Mewn cyfarfod arbennig yng Nghaerdydd heddiw, penderfynodd Awdurdod S4C y bydd 99% o'r arian a dderbynnir o'r DCMS (Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon) yn 2000 a 2001 yn cael ei wario ar y gwasanaeth rhaglenni.

Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.

Penderfynodd fy nghawod fynd ar streic y bore ma.

Dychwelwyd adref ychydig cyn y Nadolig Penderfynodd Edward a minnau mai'r peth gorau fyddai gwneud ei Nadolig yr un hapusaf a allem.

Ac ar ôl bwydo'r gwningen, penderfynodd ei bod yn amser mynd â'r cŵn am dro cyn mynd i'w wely.

Yn wyneb y sefyllfa hon penderfynodd Awdurdod Addysg Dyfed ymateb i'r gwasgu a fu arnynt of du undebau a mudiadau tebyg i UCAC a Chymdeithas yr iaith.

Ar ôl gweithio ar sawl stori am y pentre penderfynodd symud yno i fyw.

Penderfynodd y byddai'n gwisgo ei siwt orau am fod y digwyddiad yn un mor arbennig.

Ar ôl treulio cyfnodau hir yn y carchar yn y gorffennol, penderfynodd roi tro ar fyw bywyd newydd.

Yr haf hwnnw, penderfynodd y pâr fynd ar wyliau i Sbaen, a doedd byw na marw gan yr hen wraig na fuasai hithau yn cael mynd i'w canlyn.

Penderfynodd aelodau'r rhanbarth eu bod yn ymddiried yn y swyddogion i weithredu pe deuai cais o'r fath eto, heb gyfle i roi'r mater gerbron y rhanbarth.

I gael ei wynt ato fel petai, penderfynodd fynd am gwpanaid i'r lle bwyta yno.

Ychydig iawn o amynedd oedd gan awdurdodau'r ysbyty â'r math hwn o ynfydrwydd, ac yn hytrach nag ymddiried ynddynt hwy penderfynodd ef geisio cael y cyffuriau angenrheidiol yn ddirgel, a thrin yr aflwydd ei hun.

Dychwelodd Lisa unwaith eto a'r tro hwn penderfynodd fyw'n agored gyda Fiona.

Er hynny, penderfynodd Emma ei bod am barhau â'u perthynas a symudodd i fyw ato.

Penderfynodd y Cyfeisteddfod fod Pengwern i gymryd chwe mis o seibiant a mynd i ryw ran o India tu allan i'r Maes 'lle caffo orffwys ac adnewyddiad'.

Penderfynodd Cyngor Llŷn y blynyddoedd rheini, cyn iddo gael ei foddi yn Nwyfor, fod angen un cynllun cynhwysfawr ar gyfer y dosbarth cyfan a dewiswyd Llyn Cwmstradllyn fel prif gronfa.

Ond roedd gŵyl y Nadolig yn nesa/ u a gan ei bod yn dymor o ewyllys da, penderfynodd y tafarnwr yn Plouvineg gynnal gwledd gan wahodd holl drigolion y plwyf yno i'w mwynhau eu hunain.

Felly penderfynodd deitho'r ffordd rataf.

Nod awdur y Tristan en Prose oedd cyfuno hanes Tristan â phrif ffrwd hanes y byd Arthuraidd, ac felly penderfynodd gyplysu ei hanes ef â fersiwn Cylch y Fwlgat o hanes y greal, sef La Queste del Saint Graal.

Bu Teg yn rhoi gwersi gyrru iddi am sbel ond penderfynodd Teg nad oedd hi'n ffit i fod ar y ffordd.

Roedd y pâr ifanc, fel y mwyafrif o blant dynion, yn bur dlodion, heb nemawr o ddodrefn na dillad, a chan fod y gaeaf yn nesu, penderfynodd y penteulu fyned i sale Hendre Llan, ran debyg y byddai yno le da i gael pâr o wrthbannau am bris rhesymol, yr hyn oedd arno fwyaf angen o ddim.

Penderfynodd nifer o unigolion sy'n pryderu am ddyfodol y Gymraeg ddatgan eu bwriad i sefydlu grwp newydd i ymgyrchu dros y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Penderfynodd Teg faddau'r cwbwl iddi ond 'roedd Cassie yn disgwyl plentyn Huw.

Penderfynodd alw gyda'r gweinidogion yn y plas yn gyntaf man.

Penderfynodd y capten y byddai'n anelu adre am Genoa - 'o leia mi ga'i groeso'n fanno' - i fyny'r arfordir.

Pan ddaeth Catherine Pierce yma gyntaf i aros 'roedd fy nhad mor benderfynol a dieflig am gadw'i hen wraig fel y penderfynodd werthu'i stoc.

Ond penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion i beidio adnewyddu cytundeb yr athrawes ym mis Medi gan nad oedd arian ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Felly, penderfynodd fynd i lawr at y môr i nofio.

Gyda hyn yn gefndir, penderfynodd Cymdeithas yr Iaith mai syniad addas iawn fyddai cyflwyno Ail Lythyr Pennal i'r Prif Ysgrifennydd Alun Michael.

Heb ymgynghori â chig a gwaed penderfynodd Catherine Edwards yr âi hi ar ei hunion cyn belled â'r porthladd i gwrdd â'i phriod fel y byddai'n glanio yno.

Un bore, heb geiniog yn ei phwrs i brynu bwyd, penderfynodd ofyn i berchennog siop fratiau am waith.

Cafodd ei threisio ganddo ac er mawr siom i Karen penderfynodd y llys beidio â'i chredu.

Penderfynodd hefyd daclo un arall o glefydau Ariannin, sef llygredd a llwgrwobrwyo ym myd gwleidyddiaeth a busnes.

Penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn brynu'r casgliad unigryw hwn o luniau fel eu bod yn cael eu cadw'n rhan o dreftadaeth yr ynys.

Penderfynodd y Gymdeithas y bydd unrhyw glwb sy'n dymuno parhau i chwarae yn Lloegr y tymor nesaf yn cael ei ddi-arddel o FA Cymru.

Penderfynodd mai hwnnw fyddai'r diwrnod olaf y byddai hi a'i thair geneth fach yn troedio'r ddaear.

Yr oedd siocled hefyd, yn beth mor effeithiol i roi cic yn nhin cyneddfau rhywiol pobl y penderfynodd y Sbaenwyr beidio â dweud wrth neb arall amdano fo ac fe fuo nhw'n croesi'r moroedd efo fo am flynyddoedd heb i neb arall sylweddoli beth yn union oedd o.

Penderfynodd Ioan Bebb ddatgan ei farn ar ôl i Chris Stephens ei daro.

Ar ôl dwys ystyried y cwestiwn, penderfynodd llywodraeth Schroder y bydd awyrennau Airbus yn cael eu cynhyrchu ym Merlin cyn bo hir.

Fore Sul penderfynodd Rhian y buasai'n beth da iddi gael gair ar y ffôn â Paul Morris er mwyn iddo gael gwybod beth oedd wedi digwydd.

Dechreuodd pethau fynd yn flêr, ac yng nghanol eu perfformiad o Ty ar y Mynydd - un o'u caneuon mwyaf poblogaidd yn rhyfedd iawn - penderfynodd aelodau Maharishi mai doeth fyddai iddynt adael y llwyfan.

penderfynodd Peter geisio cysgu'n syth, ond aeth Larry a finnau am dro.

..' Rheolir y frawddeg nesaf gan ferf sydd yn cyfleu gweithred feddyliol - 'Penderfynodd'; yna daw dwy ferf sy'n adrodd gweithrediadau go iawn ar ei ran ef, sef 'Cyfeiriodd' ac 'adroddodd'.

Ar ôl iddo wrando arnyn nhw'n canu ac ar ôl iddo orffen gwylio'r lluoedd o bobl yn mynd ynghylch eu busnes, penderfynodd e fynd i'r caffi i gael rhywbeth i fwyta.

Ond penderfynodd yr Uchel Lys y byddai raid gyntaf i'r cytundeb fynd allan i dendr.

Oherwydd y dylanwad duwiol hwn, penderfynodd Pamela nad oedd yr ysgol a fynychai ei merched hi'n addas i blant Cristnogol.

Penderfynodd rheolwyr y parc gynnal profion wedi i BBC Cymru ofyn i gwmni annibynnol brofi'r deunydd.

Penderfynodd fod heddiw yn mynd i fod yn ddiwrnod i'w gofio.

Penderfynodd ofyn i Gaplan y carchar am rai llyfrau clasurol Saesneg.

Ar ôl cyfnod o iselder penderfynodd mai'r ffordd orau i ddelio gyda'r sefyllfa oedd trwy fod yn ôl ynghanol y pentre a phrynodd siâr yn y siop gyda Denzil.

Dathliad pwysig arall yw Dydd Oxi (sy'n golygu Na) ar Hydref 28 i gofio'r dydd y penderfynodd y Prif Weinidog ddweud Na a gwrthod mynediad i'r Eidalwyr i'r wlad yn 1940 - y weithred a sicrhaodd fod y Groegwyr yn ymuno â'r Ail Ryfel Byd.

Penderfynodd y grwp gyhoeddi'r albwm ar label Sain yn hytrach nag efo'r cwmni y cychwynnodd y grwp eu gyrfa gydag ef, Recordiau Gwynfryn.

Penderfynodd ddysgu gwers iddynt, a dyma bagio'r lori i'r dreif a thywallt saith tunnell o goncrid drwy'r to meddal i'r car crand!

Er enghraifft:BT -- wedi blynyddoedd o ddanfon biliau dwyieithog at bawb yng Nghymru, penderfynodd BT y byddai'n rhaid i bobl ofyn yn arbennig am filiau Cymraeg.

Er mwyn rhoi amser iddo feddwl penderfynodd ar gynllun dros-dro.

Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.

Penderfynodd y pedwar gychwyn yn gynnar a pheidio â dychwelyd y ffordd y daethon nhw.

Felly, wedi ystyried tipyn bach penderfynodd fynd ati i gynilo'i hun, ac erbyn hyn, teimlai'n bendant mai dyna oedd y cynllun gorau.

Wrth iddi adael y ward yn drist penderfynodd Mrs Parker fynd at y ddesg unwaith yn rhagor i holi a oedden nhw wedi cael unrhyw newydd pellach.

Penderfynodd y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg wneud safiad a mynnu cyllid iawn a grym gan y Llywodraeth.

Ar y funud ola penderfynodd Mrs Mac fynd ei hun.

Penderfynodd y ddau ymgeisydd ymddangos ar deledu'r wlad nos Fercher.

Penderfynodd yr UNHCR, ynghyd â sawl asiantaeth a llysgenhadaeth, y dylai pob gweithiwr posibl adael y wlad.

I wneud iawn amdani penderfynodd Eurwyn fynd â hi i'r Gornel Glyd am bryd iawn, a gwâdd rhai o'u cyfeillion i fynd gyda nhw.

Yn fuan ar ol dychwelyd gartref o'r Llu Awyr, penderfynodd fynd yn llyfrgellydd.

Ym Mangor penderfynodd y Frigad Dân ddefnyddio eu hysgolion i annog y cyhoedd i gyfrannu at fwcedi Pudsey a thra eu bod nhw'n dringo, roedd gweithwyr archfarchnad KwikSave yn y ddinas yn gwisgo dillad hanesyddol lliwgar i berswadio cwsmeriaid i gyfrannu ychydig o geiniogau at yr achos.

Ond wedyn penderfynodd mai'r peth gorau iddi ei wneud oedd gadael y rhan fwyaf o'r siopa tan yfory a gofyn i Emyr brynu twrci a choeden yn unig i ddechrau.

Penderfynodd rheini aros, gwylio a gobeithio y buasai'r mul yn plygu glin.

Yn wahanol i'w frawd, Trefor a ddewisodd fynd i Ysgol Sir Aberaeron, penderfynodd Euros yn y diwedd fynychu'r 'New Quay College School', neu 'Ysgol Tiwtorial D.

aeth lopez yn ei flaen : beth amser yn ôl penderfynodd y llywodraeth ffurfio grŵp arbennig i amddiffyn y wlad yn erbyn terfysgwyr.

Penderfynodd Dan sefyll ei dir.

Wedi gwrando ar eu cwynion, penderfynodd fod deuddeg ohonyn nhw wedi mynd yn rhy bell.

Penderfynodd y pedwar aros yno a chael noson o gwsg.

doedd hi ddim wedi bwyta mewn tŷ bwyta ers talwm, felly penderfynodd hi ddathlu'r swydd newydd trwy fynd allan am y noson.

Penderfynodd Steffan sefydlu bragdy yng Nghwmderi er mwyn cael achos i aros yn y pentre ac yn wreiddiol 'roedd am fynd i bartneriaeth gyda Reg - yna daeth Reg i wybod am berthynas gudd Steffan a Rhian a thynnodd allan o'r fenter.

Edmygwyd ei ddewrder a'i egwyddorion, ond wedi pum mlynedd o bregethu ac ymdrechu i fugeilio'i braidd, penderfynodd y byddai'n well symud.

Rowland Hughes yntau yn yr erthygl y cyfeiriwyd ati, pan ddywedodd am yr un gwr, 'penderfynodd ffurfio Cymdeithas Gymraeg yn Rhydychen.