Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pennod

pennod

Y mae pennod gyfareddol Dr Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn yn ymdrech ddisglair i wneud hynny a daw'n agos at lwyddo pan yw'n trafod pregethwyr a glywodd ei hun.

Daeth y gweinidog, brynhawn yr angladd, i'r parlwr cyn codi'r corff, a darllen pennod o'r Beibl darluniadol â'r clasbiau aur.

Cyfres o bedair pennod awr o hyd fydd Y Wisg Sidan gyda Betsan Llwyd yn brif gymeriad.

Arwyddai marwolaeth John Davies (Mai 15, 1644) ddiwedd pennod yn hanes llên yng Nghymru.

Ei daith ffurfiannol gyntaf oedd honno o'i henfro i Wrecsam, lle cafodd ei dro%edigaeth o dan bregethu Walter Cradoc: ei berthynas â Cradoc yw pwnc Pennod IV Morgan Llwyd: ei gyfeillion a'i gyfnod.

Pennod I

Un bore, ac yntau wedi darllen pennod a dechrau gweddio, wrth fynd ymlaen âi i hwyl.

Mewn ugain pennod, cewch olrhain datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad.

Datblygodd athrawiaeth ail-adrodd (recapitulatio = atsymio prif benawdau (re-capitulatio < capitulum = pennod, pennawd, pen bach; bychanig caput -itis = pen).

Ond wedi darllen pennod Mr Steffan Griffith ar achau Waldo, meddyliais nad anniddorol fuasai cyfeiriad neu ddau at rai o aelodau'r teulu nodedig hwn fel tamaid i aros pryd.

Golygai hynny ddarllen pennod o'r Beibl a gweddio wrth y bwrdd brecwast.

Mae'r tair pennod olaf yn hynod fywiog ac yn amlwg yn dangos lle mae gwir ddiddordeb yr awdur.

Yr oeddynt yn trafod y bymthegfed bennod o'r hyn a elwir yn llythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid o bob dim - pennod yr atgyfodiad.

Mae deunydd pennod gyfan yma - Pen-arglwyddiaeth Duw, Ei ewyllys i ni ddyfod i edifeirwch, i ni gael ein sancteiddio, i ni ddwyn tystiolaeth i'w enw etc.

Nid oedd un dydd Sul yn cael mynd heibio heb bod dad yn galw arnom am ryw awr i ddarllen pennod a chanu emyn o gwmpas y bwrdd mawr a byddai ef yn cychwyn gyda'i lais clir, cryf.

At bwrpas dilyniant o bennod i bennod gellir dangos hyd at funud o ddiwedd pennod ar ddechrau'r bennod nesaf heb dal ychwanegol.

Fel yr wyf wedi disgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn oed pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr.

Chwara teg iddo fo am ymlafnio efo chdi.' 'Mi 'dan ni 'di gneud deg pennod gynta Eseia, Mam.'

Dangosodd Mr Steffan Griffith mewn pennod ddiddorol o'i eiddo'n ddiweddar fod gan deulu Waldo Williams, o ochr ei dad gysylltiadau agos â'r ardaloedd rhwng Taf a Chleddau.' Ceisiaf innau ddangos yn yr ychydig nodiadau hyn fod gan y bardd gysylltiadau teuluol â'r Wythi%en Fawr ym Mrynaman yn ogystal.

Yr wyf wedi dweud mewn pennod flaenorol na welais gyffelyb Abel am adnabod calon dyn.

Sawl tro y ces i fy rhoi yn fy lle wedi i mi wneud sylwadau fel, "Ddim yn meddwl llawer o 'Pobl y Cwm' heno nhad," mi gawn yr atebiad "Pa bryd wyt ti am sgwennu pennod?" Wiw i mi chwaith ddweud fod actor neu actores ddim yn dda, neu mi fyddwn yn cael darlith am gynhyrchu drama deledu o'r top i'r gwaelod.

Rhaid cyfaddef fod ôl brys ar y pum pennod cyntaf.

Opera sebon fydd Pengelli wedi ei sefydlu mewn gweithdai diwydiannol a bydd ugain pennod hanner awr yn cael eu ffilmio yno.

Serch hynny, nid hynny oedd ei hymffrost yn ei hen ddyddiau ond ei bod wedi adrodd pennod o'r Beibl i Mr Charles o'r Bala, pan oedd hi'n ddeuddeng mlwydd oed, a thrachefn pan oedd yn bedair ar ddeg.

o Trevul Morris, ac yn nes ymlaen yn fy ngyrfa ryngwladol roeddwn I fynegi fy nheimlade mewn pennod stormus tu hwnt.

'Ol-nodiad' yw'r bregeth rymus hon ond ceir broliant yr un mor huawdl mewn pennod ragarweiniol i'r nofel lle traethir am amryfal ddylanwadau drwg 'cam'r nos'.

Os oeddent am i'w darllenwyr edrych pennod gyfan, yr oedd y cyfeiriad Beiblaidd yn dweud hynny, yn union fel y gwna Llwyd gyda'i gyfeiriad at "Dan.

Byddai ymarferion pwrpasol ar ddiwedd pob pennod wedi bod yn gaffaeliad pellach - edrychaf ymlaen at weld cyhoeddi Llawlyfr yr Athro sy'n cyd-fynd â'r gyfres.

Tydi'r stori ddim yn hir ac mae digon yn digwydd ym mhob pennod i gadw diddordeb y darllenwr.

Efallai i Who Wants to be a Millionaire ennill y frwydr am lygaid yn erbyn pennod olaf Victor Meldrew.

Mae'r ail adran hithau'n agor yn draddodiadol â fformiwla pennod' y chwedlau Cymraeg a threiglwaith ydd oedd Arthur yn dala llys yng Nghaerllion-ar-Wysg y Sulgwyn.

'Roedd Halen yn y Gwaed yn plymio i ddyfroedd dyfnion pechod a chydwybod yr wythnos hon, mewn pennod o actio grymus.

Gyda dyfodiad JE i Gaernarfon a sefydlu Swyddfa'r Blaid yn y dref agorwyd pennod newydd yn ei hanes.