Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pennu

pennu

Yn ôl yr egwyddor hon, y mae'n ystyrlon i drin nwyddau traul (a hefyd, o ran hynny, nwyddau cyfalaf) fel cyfanred, os oes modd egluro'r galw cyfanredol am y nwyddau hyn heb ystyried na'r ffactorau sy'n pennu'r galw am nwyddau unigol nac ychwaith gymhellion treulwyr fel unigolion.

Dibynna'r drydedd dybiaeth, sef mai'r incwm gwladol sy'n pennu treuliant, ar egwyddor cyfranrediad, egwyddor sy'n ganolog i astudiaethau macro-economeg confensiynol.

Dywedodd Meira Roberts y dylid pennu pob elusen y codir arian tuag ato ymlaen llaw.

Yn ei beirniadaeth hithau o waith Fishman, dywed Martin- Jones fod Fishman yn trafod 'dewis' iaith yn helaeth yn ei astudiaethau o gymunedau dwyieithog, tra'n honni yr un pryd mai normau'r gymuned sy'n pennu'r iaith a siaradir ym mhob sefydliad cymdeithasol.

Yn y lle cyntaf nid ydyw'r ffactorau sy'n pennu cyfradd y twf dichonol o angenrheidrwydd yn aros yn ddigyfnewid.

Y disgwyl yw y byddan nhw'n pennu cyfran benodol o'r arian ar gyfer prosiectau hefyd.

Y peth trist ynglŷn ag anifeilaid meddwn i wrthyf fy hun, yw eu bod yn peri i ddyn fynd yn dduw bach sy'n pennu eu ffawd ac yn gwybod y gwaethaf cyn i hynny ddigwydd iddynt.

Gosod Testun Pennu Steil Agorwch gopi o 'Testun - Ymarfer' sydd yn y ffolder 'Addysg PMJ'.

Cofiodd fod peilat otomatig yn rheoli awyrennau modern ac yr oedd yn sicr fod Abdwl wedi pennu'r cwrs gan adael rheolaeth yr awyren i'r peilat otomatig.

Y ffactorau sy'n pennu agweddau oedolion at y Gymraeg.

Yr wyf wedi pennu ar dy gyfer yr un nifer o ddyddiau ag o flynyddoedd eu pechod, sef tri chant naw deg o ddyddiau, iti gario pechod tŷ Israel.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol sy'n cynnwys yr holl farchnadoedd hyn yn pennu lefelau cytbwys prisiau, y gyfradd llog, a buddsoddiant, yn ogystal â'r incwm gwladol.

Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia bechod tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

Pennu cornel arbennig yn benodol ar gyfer y bobol hyn sy'n ystyried eu hunain mor bwysig eu bod yn haeddu ffafrau arbennig.

Y mae Prisiau'r llyfrau hyn i'w pennu a'u gosod gan yr Esgobion a enwyd a'u Holynwyr, neu gan dri ohonynt o leiaf; os bydd i'r Esgobion a enwyd neu eu holynwyr beidio â gwneud y pethau hyn, Yna bydd i bob un ohonynt fforffedu i'w Mawrhydi y Frenhines, ei Hetifeddion a'i Holynwyr, y swm o ddeugain Punt.

Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd yr hen glasau Cymreig - mam-eglwysi'n gweinidogaethu i ardaloedd eang ond amhenodol - wedi eu disodli gan yr esgobaethau tiriogaethol a'u ffiniau wedi eu pennu.

(c) Hawl weithredol i'r Pwyllgor Cynllunio weithredu ynglŷn â'r maes gwaith hurio preifat gan gynnwys pennu'r amodau, ffioedd a chyfnodau'r trwyddedau.

Tybed a oedd yna mewn bywyd ryw ddeddf anhyblyg ar waith oedd yn pennu cosb ar gyfer pob drwgweithredwr?