Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pentwr

pentwr

Dim sôn am boteli, gwydrau brwnt, blychau llwch gorlawn, pentwr o hen bapurau newydd.

Plygodd i godi'r pentwr papurau ar yr union funud y plygodd Lisa i wneud yr un peth, a thrawodd eu pennau'n glec yn erbyn ei gilydd.

Syllwch dros y llyn ar y pentwr twmpathau hirgrwn, y mariannau ochrol lle chwydodd y rhewlif ei Iwyth wrth raddol feirioli.

Cododd Elystan y corff eiddil yn dyner a'i roi i orffwys ar wely o beiswyn gerllaw'r pentwr coed wrth yr aelwyd.

Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.

Mae'r pentwr llythrennau'n guddiedig rhagom mewn bag, yn gorwedd yno'n ddigyswllt yn disgwyl i rywun roi ystyr iddynt.

Caeodd ei lygaid a dodi'i ddwylaw dan ei ên: chwyddodd gwythi%en yn ei arlais a sylwodd y Rhaglaw ar y pentwr iach o gŵyr du yn ei glust chwith.

Sgriblo pentwr o lythyrau, symud gwartheg a defaid i gaeau ffres a chasglu'r buchod sydd agosaf at eni lloi i'r cae ger y buarth.

Taflwyd petrol ar y pentwr arwyddion a dyma'r cyfan i fyny'n goelcerth.

Disgynnodd Mr Parker, a oedd yn chwe throedfedd tair modfedd o daldra ac yn pwyso pymtheg stôn ar ben pentwr o wŷr, gwragedd a phlant.

Plannodd hwnnw y bidog i mewn i'r pentwr.

Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.

Bu drwy 'gyfnewidiad morol', proses o fraenu nad yw'n gadael dim ar ôl o'r llongddrylliad ond pentwr sefydlog a elwir yn 'ffurfiad llongddrylliad'.

Y cwestiwn hanfodol, meddai ef, yw a yw 'pentwr o aflendid' yn hanfodol mewn darn arbennig o lenyddiaeth.

Y gaseg ddrycin sydd ar frig y pentwr, ac ar ei hôl, yn eu tro mae'r socan eira, y fwyalchen, y fronfraith a'r goch-dan-aden.

Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed.

Mae hi fel trampolîn.' `Wyt ti'n meddwl y cawn ni afael ar drysor yma?' `Cellwair yr wyt ti wrth gwrs.' `Wel - dwyt ti byth yn gwybod - edrych ar y wardrob draw fan na - pwy a yr beth sydd ynddo.' `Yr unig ffordd i ddarganfod hynny yw mynd i edrych!' Gan waeddu a bloeddio neidiodd y giang dros y gwahanol rwystrau i'r fan lle safai hen wardrob yng nghanol pentwr o ddodrefn diraen fel llong ofod a adawyd ar ôl.

Ar yr un pryd neidiodd i ben pentwr o gerrig a oedd gerllaw iddo.

Credaf bod eisiau pentwr o ras i fyw fel hynny.