Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pentyrru

pentyrru

Pentyrru mae problemau Clwb Pêl-droed Llanelli.

Bu+m yn llifio coed am sbel y bore yma ac yna yn hollti rhai o'r blociau yn goed tân a'u pentyrru'n dwt wrth y drws cefn.

(Rhyfedd, gyda llaw, mor hawdd yw pentyrru ansoddeiriau amrywiol - gwrthgyferbyniol yn wir - wrth geisio cyfleu naws y gwaith; dramatig, telynegol, &c.) Gwiriondeb, wrth gwrs, fuasai haeru mai'r nofel hon sy'n rhoi'r darlun 'cywir'; dehongliad unigolyddol iawn a geir.

Seiliau cadarn i'n tai a seiliau cadarn i'n bywydau i'n cynnal pan fydd gofalon byd yn pentyrru arnom, a phoen a phrofedigaeth yn cipio'r llawr oddi tanon ni.