Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

persawr

persawr

Os oes gennych efnogwyr hael, a'ch bod wedi colli ston o leiaf, yna gallech obeithio cael persawr, 'after-shave'.

Y berth o lafant a rhosmari yw ffrindiau mam, ac o'r Plas y cafodd hi'r planhigion gan Edmund y garddwr, a pharhânt i sirioli bywyd mam â'u persawr a'u hatgofion.

Clod i Ti am y tir a'r môr; am ffrwythlonder pridd, amrywiaeth blodau, eu lliwiau a'u persawr; am gadernid coed a golud bywyd y fforestydd.

Ffisig annwyd, eli babi, clapiau sebon, persawr, past dannedd, tabledi sipian at ddolur gwddw.

Symudodd y persawr i'r ochr a chraffu y tu ôl iddo.

Ac mae eu persawr fel melyster pwdr hwran." Rhythais arno â'm ceg ar agor.

Roedd aroglau benywaidd yn y compartment pan euthum i mewn; roedd dwy ferch y môr wedi bod yn ymbincio a ffresio eu hunain gydag 'Ashes of Roses' neu ddŵr lafant - dyna, rwy'n meddwl, oedd y persawr oedd yn y ffasiwn yr adeg yma.